Yn meddwl llawer ohonom mae Chicago o hyd yn gysylltiedig efo Al Capone a gangsters cyfnod y Gwaharddiad ar alcohol, ond os yw’r darlun yn y ffilm ddogfen King Von: Rap’s First Serial Killer (ar gael ar YouTube) i’w gredu, afraid dweud bod trosedd, trais a phresenoldeb gangiau o hyd yn broblem sylweddol yn y ddinas wyntog.