Daeth y Cymry ifanc ynghyd ar Sadwrn ola’r Brifwyl ym Mhontypridd ar gyfer arlwy Maes B, sef y safle amlycaf un ar gyfer mwynhau hufen y Sîn Roc Gymraeg.

Yno’n perfformio ar y noson olaf o bedair oedd Fleur de Lys, 3 Hŵr Doeth, Gwilym, Los Blancos, Buddug, Hyll a Dim Gwastraff (Enillydd Brwydr y Bandiau).