Mae Andrew RT Davies wedi cael ei hun mewn dipyn o dwll…

Er ei fod yn arweinydd ar y grŵp Ceidwadol yn y Seneddol, nid yw Andrew RT Davies yn arweinydd ar y Ceidwadwyr Cymreig gan nad yw’r swydd yn bodoli.

Ond i unrhyw un sy’n taro golwg ar ei gyfrif Trydar, mae yn cymylu’r dyfroedd drwy ddisgrifio ei hun fel “@WelshConserv Leader”…

Yn ddiweddar mae Andrew RT wedi cael ei feirniadu yn fewnol ac yn allanol am ambell achlysur o fynd yn erbyn gorchmynion ei aelodau ei hun.

Dechreuodd helynt arweinydd GRŴP Seneddol y Ceidwadwyr ar ôl iddo ailadrodd cyhuddiad ffug am ddisgyblion mewn ysgol yn y Bontfaen a oedd ond yn derbyn cig halal.

Dywedodd yr ysgol bod “y datganiad bod pob cynnig cig ar y fwydlen yn gig halal yn unig ddim yn gywir.”

Cyhuddodd Cyngor Mwslimaidd Cymru Andrew RT o wyntyllu rhethreg Islamoffobig sydd yn cael effaith “wirioneddol” ar Fwslemiaid “ar ein strydoedd”.

Mae Andrew RT wedi wfftio’r cyhuddiadau’r cyngor.

Yna daeth stŵr dros ei benderfyniad i gynnal pôl opiniwn ar faes Sioe Bro Morgannwg, yn gofyn a ddylai Senedd Cymru gael ei diddymu…

Yn sioc i bawb, nid oedd Andrew RT i’w weld ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd drwy gydol yr wythnos…

A hynny er ei fod yn cynrychioli ardal Pontypridd ac yntau yn Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru.

Yn ymateb i’r penderfyniad i redeg yr arolwg hollol wyddonol yma yn Sioe Bro Morgannwg, roedd cyn-Arweinydd y Grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad Nick Bourne yn rhybuddio’r arweinydd presennol rhag cymryd tro trwstan.

Ychwanegodd bod ail ymweld â dilysrwydd datganoli a bodolaeth Senedd Cymru “ddim yn gwneud synnwyr”.

Mae Andrew RT wedi’ ddyfynnu yn y gorffennol yn dweud bod cwestiynau cyfansoddiadol “ar gyfer anoracs” gwleidyddol… tybed a yw o’r un farn nawr?

Gwrthod gwahardd Laura Anne Jones

Mae, AoS Dwyrain De Cymru, Laura Anne Jones, wedi cyfaddef iddi ddefnyddio term sy’n sarhau pobl Chineaidd mewn sgwrs WhatsApp.

Mewn datganiad, dywedodd y Geidwades bod y gair yn “annerbyniol ac rwy’n difaru’n fawr ei ddefnyddio”.

Mae Andrew RT wedi gwrthod gwahardd Ms Jones o’r grŵp, gan frolio na fydd yn ufuddhau i’r diwylliant canslo.

“Beth sydd angen i ni wneud y dyddiau hyn? Dodi tar a phlu ar rywun? Ynteu ydyn ni’n derbyn eu hymddiheuriad, deall bod pobl yn dysgu gwersi o’u camgymeriadau a symud ymlaen?,” meddai ar BBC Radio Wales.

Ta ta i RT?

Yn siarad â Bwrlwm ar faes yr Eisteddfod, dywedodd Guto Harri, sydd wedi bod yn amddiffynnwr selog o’r Ceidwadwyr yn San Steffan, bod angen “ysgytwad milain” ar y Ceidwadwyr Cymreig.

“Maen nhw wedi bron wedi bod yn jôc ar yr ymylon,” meddai.

“Mae Andrew RT Davies wedi cael mwy na digon o gyfle i wneud cyfraniad mwy deallus, egwyddorol a phwysig i wleidyddiaeth Cymru, a dydi e jest ddim yn gweithio.

“Mae angen arweinydd newydd ar Geidwadwyr Cymru.”