Bu Golwg yn trafod yr iaith a chymunedau Cymraeg, Rhondda Cynon Taf, a sefyllfa’r Gwasanaeth Iechyd gydag Eluned Morgan…

Ar ei hail ddiwrnod yn Brif Weinidog Cymru, roedd Eluned Morgan yn ymweld â’r Eisteddfod ym Mhontypridd ar y dydd Iau.

Yn ogystal â dod yno i fwynhau, roedd yn derbyn adroddiad gan Gomisiwn Cymunedau Cymraeg gan y Cadeirydd, Yr Athro Simon Brooks.