Terfysg a hiliaeth ydi pwnc mawr y mis a John Dixon yn rhybuddio bod rhaid chwilio y tu hwnt i’r rhai sydd ar y strydoedd…

“Efallai fod carcharu’r bobol fach sydd ‘jyst’ yn grac yn gam angenrheidiol yn y tymor byr, ond  delio gyda’r symptom yw hynny. Y rhai y dylen ni fod yn wirioneddol wyliadwrus ohonyn nhw ydy’r rhai sydd â’u ‘hatebion’ yn cynnwys llywodraethu gormesol a chyfyngiadau ar ryddid.” (John Dixon ar borthlas.blogspot.com)