Mae’r ferch o Eryri wedi ei henwi ar restr y 30 hanesydd mwyaf dylanwadol o dan 30 oed yng nghylchgrawn History Extra y BBC. Bwriad y rhestr yw rhoi sylw i bobl ifanc rhwng 18 a 30 oed sy’n “gwneud cyfraniadau gwych i hanes”.

Yn ogystal â bod yn hanesydd, mae Elin yn gweithio i gwmni teledu Cwmni Da yng Nghaernarfon, gan gynhyrchu a chyflwyno tair cyfres hanesyddol i BBC Radio Cymru a chyhoeddi erthyglau ar wefan Cymru Fyw y BBC…

Sut brofiad oedd gweld eich enw ar restr o’r haneswyr mwyaf dylanwadol dan 30 oed? 

Ffantastig! Mae ymchwil hanesyddol yn gallu bod reit unig a draining ar adegau, yn enwedig pan mae rywun yn edrych ar ddigwyddiadau digon tywyll, felly mae derbyn cydnabyddiaeth am fy ngwaith yn hwb mawr imi barhau i chwilota!

Pryd ddechreuodd eich diddordeb mewn hanes?

O oedran ifanc iawn i ddeud gwir. Mi brynodd Dad bron iawn pob un gyfrol Horrible Histories imi pan oeddwn i tua wyth oed. Bryd hynny – yn wahanol i rŵan – hen hanes oedd yn apelio: Y Celtiaid, Y Rhufeiniad ac Oes y Tywysogion.

Be fuoch chi’n astudio yn y brifysgol?

Mi wnes i astudio Hanes gyda Chymraeg ac yna gradd meistr mewn Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mi’r oeddwn i wedi bwriadu astudio’r Gyfraith a mynd yn gyfreithiwr, ond ryw bythefnos cyn imi gwblhau fy nghais UCAS mi wnes i benderfynu newid trywydd ac astudio Hanes a Chymraeg. Iwan Barker Jones oedd fy athro chweched yn Ysgol Brynrefail a mi wnaeth o fy mherswadio i mai Hanes oedd y pwnc imi – diolch byth!

Sut fyddwch chi’n defnyddio eich gwybodaeth am hanes fel rhan o’ch swydd yn gynhyrchydd gyda Cwmni Da?

Dw i wedi gweithio ar sawl cyfres hanesyddol. Hefo Papur Ddoe i BBC Radio Cymru mi roeddwn i’n defnyddio hen bytia’ papur newydd i ddod â hanes yn fyw. Neu Teulu, Dad a Fi i S4C lle roeddwn i’n olrhain hanes teulu Wayne a Connagh Howard yng Nghymru, Iwerddon a Jamaica, a chyfres Inside Museums i BBC FOUR lle’r oedd Huw Stephens yn ymweld â’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis.

Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham?

Oes Fictoria. Dw i yn meddwl bod datblygiad ffotograffiaeth yn chwarae rhan fawr yn hyn, dw i’n meddwl; y ffaith bod modd gweld wynebau go-iawn o’r pwynt yma ymlaen. Mae gen i ddiddordeb mawr yn hanes y Rhyfel Byd Cyntaf hefyd sy’n plethu’n dda â’r cyfnod Fictoraidd, gan gofio mai plant Oes Fictoria a gafodd eu heffeithio fwyaf gan ddinistr y Rhyfel Mawr.

Sut mae gwneud hanes yn bwnc difyr i blant?

Dyna chdi gwestiwn! Mae canolbwyntio ar brofiadau plant yn help dw i’n meddwl – dyna oedd ein bwriad ni efo’r gyfres deledu Hei Hanes! lle’r oedd plant o’r gorffennol yn vlogio am eu bywydau. Dw i yn meddwl bod hi mor bwysig i blant gael y cyfle i ymddiddori mewn hanes – ma’ astudio hanes fel testun yn eich arfogi chi hefo sgilia’ sy’n ddefnyddiol mewn gymaint o feysydd ac mewn bywyd yn gyffredinol. Fel sut i grynhoi gwybodaeth; sut i bwyso a mesur a sut i lunio dadl.

Beth yw eich atgof cynta’?

Cael fy mhigo gan wenyn ar draeth yn Llydaw pan oeddwn i tua thair oed – a Gwen (fy chwaer fawr) yn trio fy nghysuro i.

Beth yw eich ofn mwyaf?

Ma’ gen i sawl un i dd’eud gwir… ond ma’ siŵr na escalators ydy’r un mwyaf. Neu wartheg! Bron iawn imi ddisgyn lawr escalators Debenhams yn Llandudno pan oeddwn i’n fach a gan fy mod i wedi tyfu fyny mewn ardal wledig dw i wedi cael sawl chase gan wartheg dros y blynyddoedd!

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Ers y cyfnod clo dw i’n rhedeg yn rheolaidd. Mi fydda i’n trio mynd unwaith yr wythnos o leia’ – dwywaith yn ddelfrydol. Dw i’n licio rhedeg dros y Foryd yng Nghaernarfon neu rownd Llyn Padarn [yn Llanberis]. Y pella’ dw i wedi rhedeg ar hyn o bryd ydy deg milltir. Hanner marathon ydy’r targed sy’ gen i, sydd ychydig dros dair milltir ar ddeg, felly tydw i ddim yn bell rŵan! Doeddwn i byth yn meddwl fyswn i’n gallu rhedeg mor bell… doeddwn i methu rhedeg chwarter milltir heb stopio nôl yn 2020 ond mi’r oedd app ‘Couch to 5k’ yn le grêt i gychwyn.

Beth sy’n eich gwylltio?

Ma’ gen i ffiws reit siort yn anffodus…! Pobl digywilydd neu pan tydi pobol ddim yn cadw at eu gair sy’n fy ngwylltio i fwya’.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Dw i’n ffan mawr o hen sit-coms felly mi fysa’ Victoria Wood neu David Jason yn rai da dw i’n siŵr. Lot o fwyd môr i ddechrau, lasagne anferthol fel prif gwrs a pavlova i orffen.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Genuinely neu literally.

Hoff wisg ffansi?

Yn ystod fy ail flwyddyn yn Aberystwyth mi wnes i a’n ffrind – Elin Siriol – wisgo fel Elvis Presley. Thema’r parti gwisg ffansi oedd ‘llythyren gyntaf eich enw’ a ni enillodd! Mi’r oedd gweddill y genod yn fed-up o glywed ni’n dynwared Elvis drwy’r nos!

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwyaf o embaras i chi?

Mi wnes i gymhwyster BTEC mewn Astudiaethau Awyr Agored ym Mlwyddyn 10 ac 11 ac roedd hi – wrth reswm – yn ofynnol imi wneud pob math o weithgareddau amrywiol fel canŵio a mynydda. Yn ystod trip campio i ochra’ Harlech wnes i ddisgyn mewn i gors ofnadwy o fwdlyd (a dwfn!) ar drip ysgol ym Mlwyddyn 10. Roeddwn i fatha Dawn French yn y bennod yna o The Vicar of Dibley pan mae hi’n neidio yn y pylla’ dŵr. Mi’r oedd yn rhaid i’r hyfforddwr fy nhynnu fi fyny – roeddwn i’n hymian!

Gwyliau gorau i chi fwynhau?

Amhosib dewis… Ibiza efo’r genod llynedd yn highlight.

Dw i ac Iwan, fy mhartner, wrth ein bodd yn ymweld ag Ardal y Llynnoedd ac alla i ddim peidio cynnwys yr holl dripia’ teulu i Lydaw yn tyfu fyny – ac eithrio’r gwylia’ yna lle ges i fy mhigo!

Hoff albwm?

Dw i’n ffan o Taylor Swift ers y dechrau un ac mi’r oeddwn i’n ddigon lwcus i gael tocynnau i fynd i weld yr Eras Tour yn Anfield ‘lenni (diolch Anna!) ond ma’ hi’n amhosib dewis un albym.

Oes ganddo chi hoff Hanesydd o Gymru?

Anodd iawn…! Mae Russell Davies yn sicr wedi cael dylanwad mawr arna i. Mae ei gyfrolau yn frith o straeon personol am bobl o gig a gwaed a thrwy’r straeon unigol yma y sylweddolais nad oes rhaid i lyfrau hanes ganolbwyntio ar ddyddiadau a ffigyrau llychlyd yn unig, a bod gofyn inni gofio, cofnodi a dathlu hanesion pobol gyffredin. Ma’ gen i lot o barch i Bill Jones – Prifysgol Caerdydd gynt – hefyd am fod mor hael efo’i amser ar wahanol brosiectau hefo mi.

Hoff ddiod feddwol?

G&T heb os!

Hoff air?

Lyfli.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Mae The Five gan Hallie Rubenhold yn gyfrol eithriadol o bwysig sy’n olrhain bywydau’r merched gafodd eu llofruddio yn ardal Whitechapel o Llundain yn 1880au – wna i ddim enwi’r llofrudd. Ma’ Where Poppies Blow gan John Lewis-Stempel yn anhygoel – mae’r awdur edrych ar sut berthynas oedd gan filwyr y Rhyfel Mawr â natur ac anifeiliaid yn y ffosydd ar Ffrynt y Gorllewin. Dw i’n hoff o gyfresi A Time Traveller’s Guide to… gan Dr Ian Mortimer ac unrhyw beth gan Lucy Worsley –  mae ei chyfrol am Agatha Christie yn wych.