Dyna ni, Eisteddfod arall wedi mynd a dod, ac un dda iawn oedd hi hefyd, llongyfs Rhondda Cynon Taf. Y drafferth efo bod yn yr Eisteddfod yw ei bod hi’n reit anodd gwylio’r Eisteddfod ar y teledu. Neu wylio unrhyw beth arall o ran hynny. Nid fod hynny’n beth drwg wrth gwrs, mae mymryn o detox o’r bocs yn braf, hyd yn oed i golofnydd teledu!