Morgan Owen
Mae mwy i Sul y Cofio na dim ond coffáu colledigion rhyfel, yn ôl Morgan Owen

Mae cyfnod y cofio ar ein gwarthaf unwaith yn rhagor, fel y tystia’r pabïau cochion a welwn yn fwyfwy aml ar hyd y lle wrth i ail wythnos mis Tachwedd agosáu.

Yn ôl pob tebyg, fe aiff pawb ar hyd hen lwybrau hirarfer wrth goffáu colledigion rhyfel gan brynu pabi i’w wisgo ac efallai fynychu gwasanaeth coffa. Da o beth y cyfryw gofio gan fod cofio camgymeriadau’r gorffennol yn fodd o’u hosgoi yn y dyfodol. Ond yn yr achos hwn, nid trwy gofio aberth y bobl fu farw mewn rhyfeloedd yr ydym yn eu hanrhydeddu.

Mae rhyfel heddiw yr un mor erchyll ag y bu erioed. Myth ffiaidd yw bod rhyfel yn anrhydeddus neu yn wrol mewn unrhyw ffordd. Erys y ffaith mai gweithred gynhenid anwar yw lladd pobl eraill. O’r herwydd, nid yw cofio cyflafan a galanas yn newid dim ar hynny. Ni fu farw neb mewn rhyfel er mwyn rhyfel ei hun, er mwyn delfryd rhyfel, fel petai.

Yr unig ffordd y gellir coffáu’r sawl fu farw mewn rhyfeloedd yw gwneud beth bynnag a aller i wneud rhyfel yn llai tebygol. Fel arall, fe fydd rhagor o ryfeloedd o hyd, a dim ond cynyddu a wnaiff y meirwon a goffeir.

Ystyrier, er enghraifft, y fasnach arfau. Un o brif gynhyrchwyr a gwerthwyr arfau’r byd yw’r DU. Prin iawn fod unrhyw ddefnydd i arfau y tu hwnt i ladd. Byddwch yn amheus iawn felly o lywodraeth y wlad hon sy’n collfarnu erchylltra rhyfel bob mis Tachwedd yn brydlon tra’n gwerthu arfau i wledydd rhyfelgar. Byddwch yn fwy amheus byth o wleidyddion ac eraill sydd yn deisyf heddwch wrth sefyll gerbron baner yr Undeb, sydd yn cynrychioli ymerodraeth waedlyd a ehangodd ei ffiniau trwy ddarostwng pobloedd eraill mewn rhyfeloedd ofnadwy.

Dichon fod y fath ragrith mor gyfarwydd i ni bellach fel ag i fod yn anweladwy.

Cofiwch erchylltra rhyfel, ac aberth y rhai fu farw. Ond cofiwch hefyd mai’r unig ffordd y byddwch yn sicrhau nad ofer oedd eu haberth yw trwy ffieiddio rhyfel a’i wneud mor annhebygol â phosib. Mae hynny’n dechrau yn syml iawn ym mywyd beunyddiol. Mae pob gweithred o ewyllys da a chariad, er eu distadled yng nghyd-destun y byd cyfan, yn gwthio rhyfel un cam yn bellach i ffwrdd.

Mae Morgan Owen yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.