Jane Hutt
Bydd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt, yn cyhoeddi heddiw pa brosiectau fydd yn cael cyllid o gronfa gwerth £5 miliwn drwy’r cynllun Buddsoddi i Arbed 2015-2016.
Mae’r gronfa yn cefnogi cyflwyno ffyrdd newydd o weithio fel bod gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithlon ac effeithiol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r cynllun yn helpu sefydliadau yn y sector cyhoeddus i wella eu gwasanaethau ac arbed arian.
Bydd 10 o brosiectau yn cael eu cynnwys yn y cynllun eleni, gan arwain at arbedion o tua £3 miliwn y flwyddyn.
Bu’r Gweinidog yn ymweld â chanolfan meddygol Hirwaun ddydd Llun, un o ganolfannau gofal sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.
Ym mis Ebrill 2015, cafodd y bwrdd iechyd £75,000 drwy’r cynllun er mwyn i’r staff nyrsio gael dyfeisiau data symudol yn eu gwaith, ac mae hyn wedi eu galluogi i wneud ymweliadau cymunedol a throsglwyddo gwybodaeth o bell heb orfod mynd yn ôl i’r ddesg.
Yn ôl yr amcangyfrifon, mae hyn wedi arbed £300,000 bob blwyddyn i’r bwrdd iechyd.
Dywedodd Lynda Williams, Cyfarwyddwr Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gofal Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf: “Wedi i ni lwyddo i gael arian ‘Buddsoddi i Arbed’ rydyn ni wedi gallu darparu adnoddau pwrpasol i staff er mwyn cyflymu’r gwaith o gyflwyno’r dyfeisiau symudol i’r Timau Nyrsio Ardal yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.”
Y cylch nesaf o’r cynllun yn werth £20 miliwn
“Rwy’n falch dros ben o allu cyhoeddi heddiw y bydd deg o brosiectau newydd trwy Gymru yn elwa ar gyfanswm o £5m o fuddsoddiad trwy ein cynllun Buddsoddi i Arbed arloesol,” meddai Jane Hutt.
“Bydd y cylch cyllido hwn hefyd yn cynnwys nifer o brosiectau buddsoddi i atal, sydd â’r potensial o gael effaith sylweddol ar wariant cyhoeddus a bywydau a lles cymunedau ar hyd a lled y wlad. Rwy’n edrych ymlaen at glywed am eu cynnydd dros y misoedd nesaf.”
Yn ôl y Gweinidog, bydd y cylch Buddsoddi i Arbed nesaf, yn werth tua £20 miliwn yn 2016-17.
Dyma rai o’r prosiectau eraill fydd yn cael cymorth:
- £281,000 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a fydd yn caniatáu i bob pwmp trwytho meddygol gael ei uwchraddio.
- £278,000 i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys er mwyn sefydlu Uned Gofal Parhaus i Blant
- £1m i Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn gweithredu system well o gasglu refeniw.
- £1.4m i Gyngor Sir Caerfyrddin er mwyn helpu i ariannu’r gwaith o osod unedau LED mewn 12,000 o oleuadau stryd traddodiadol.
- £165,000 i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a fydd yn galluogi’r gwaith o newid goleuadau pob gorsaf dân i rai LED.
- £1m i Brifysgol Caerdydd er mwyn ariannu amrywiaeth o brosiectau arbed ynni gan arwain at leihau allyriadau carbon.
- £75,000 i Lyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn gosod celloedd ffotofoltäig, fydd yn golygu bod y llyfrgell yn llai dibynnol ar drydan o’r grid.