Mae angen “canllawiau cliriach” ar ysgolion wrth ymateb i absenoldeb plant o’r ysgol yn ystod y tymor, yn ôl undeb addysg Cymru.
“Mae’r amrywiaeth o fewn y pedwar consortiwm addysg yng Nghymru yn achosi dryswch,” meddai Rebecca Williams ar ran undeb UCAC wrth Golwg360.
Mae gan bob ysgol ac awdurdod lleol yr hawl i gyflwyno dirwy o £60 i rieni os yw eu plentyn yn absennol o’r ysgol yn ystod y tymor, heb ganiatâd. Mae gan ddisgyblion hawl i fod yn absennol o’r ysgol am 10 diwrnod yn ystod y flwyddyn academaidd.
Ond mae UCAC yn teimlo fod hyn yn cael ei ddehongli’n wahanol ar draws Cymru.
Fe fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn adolygu’r rheolau dirwyo y flwyddyn nesaf, ac mae UCAC wedi croesawu hynny’n fawr gan ddweud fod angen “trafodaeth ar lefel genedlaethol i sicrhau canllawiau cliriach.”
‘Dehongli’n wahanol’
Mae UCAC wedi codi’r sylw hwn yn dilyn achos yn erbyn mam a thad o Abertawe a gafodd ddirwy o £60 yr un am dynnu eu gefeilliaid allan o’r ysgol am wythnos yn ystod mis Medi – fe ddaeth cyfanswm eu dirwy i £240.
Fe esboniodd Rebecca Williams fod ambell awdurdod yn dehongli’r rheolau yn llymach nag eraill, a bod ERW sy’n cynrychioli awdurdodau lleol canolbarth a de Cymru yn “llym iawn”.
“Maen nhw fwy neu lai yn gwahardd tynnu plant o’r ysgol,” meddai Rebecca Williams.
Er hyn, fe ddywedodd Rebecca Williams ar ran UCAC fod perthynas amlwg rhwng presenoldeb disgyblion â pherfformiad eu haddysg.
Ond, fel undeb sy’n cynrychioli athrawon, yr hyn mae UCAC yn galw amdano yw canllawiau cliriach i benaethiaid wrth ymateb i absenoldebau disgyblion.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mewn ymateb i hyn, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y dylai disgyblion fynd i’r ysgol mor aml ag y gallan nhw – er mwyn elwa’n llawn o’u haddysg.
“Mae tystiolaeth gref yn dangos fod absenoldeb o’r ysgol yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol unigolion.
“Does gan rieni ddim hawl awtomatig i dynnu disgyblion o’r ysgol, ac mae’n rhaid iddyn nhw ofyn am ganiatâd o flaen llaw.
“Mae gan ysgolion hawl ddiamod i awdurdodi hyd at 10 diwrnod o absenoldeb ar gyfer gwyliau teulu yn ystod y tymor mewn blwyddyn ysgol,” ychwanegodd y llefarydd.
Fe esboniodd Llywodraeth Cymru y gall ysgolion ystyried nifer o ffactorau dros awdurdodi’r absenoldeb, gan gynnwys amser y flwyddyn, hyd y daith, yr effaith ar ddysgu parhaus, amgylchiadau teuluol ynghyd â phatrwm presenoldeb cyffredinol y plentyn.