Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio ei hymgyrch ‘Caru S4C’ yn San Steffan heddiw gan alw ar y llywodraeth i ddiogelu cyllid y sianel genedlaethol a lansio ail wasanaeth aml-gyfrwng.
Mae’r grŵp ymgyrchu yn mynd â’u hachos i Lundain, mewn trafodaeth yng nghwmni’r DJ Huw Stephens, David Davies, AS Ceidwadol dros Sir Fynwy, a’r gantores Casi Wyn, i drafod pwysigrwydd y sianel i’r Gymraeg.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, fe addawodd y Ceidwadwyr Cymreig yn eu maniffesto cyn etholiadau San Steffan y byddan nhw’n “diogelu ariannu” S4C.
“Byddai unrhyw dro-pedol ar yr ymrwymiad clir hwnnw yn anfaddeuol, ac yn sicr o greu problemau enbyd i’r blaid Geidwadol yn etholiadau’r Cynulliad,” meddai Curon Wyn Davies, llefarydd darlledu’r mudiad.
Bydd y mudiad hefyd yn lansio papur sy’n amlinellu model ar gyfer darlledwr aml-lwyfan Cymraeg newydd er mwyn “ehangu defnydd y Gymraeg ymysg pobl ifanc”.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi argymell codi “cannoedd o filiynau o bunnau” drwy dreth newydd – ar hysbysebion a darlledwyr preifat – er mwyn ehangu darlledu cyhoeddus.
‘Ffin rhwng teledu traddodiadol a’r we yn diflannu’
“Mae’n rhaid edrych ar y potensial i ehangu cylch gwaith y darlledwr, cryfhau ei sefyllfa ariannol, a’i moderneiddio ar gyfer oes pan fo’r ffin rhwng sianel deledu draddodiadol a’r we yn prysur ddiflannu,” meddai Curon Wyn Davies.
“Dros y degawdau diwethaf, tra buodd twf aruthrol yn nifer y sianeli teledu a gorsafoedd radio Saesneg eu hiaith, mae’r gwasanaethau Cymraeg wedi aros yn eu hunfan, gydag un sianel deledu, un orsaf radio, a gwasanaethau eraill sy’n eilradd o gymharu â’r gwasanaethau Saesneg cyfatebol.”
Cyfeiriodd hefyd at y ffordd mae S4C a Radio Cymru yn cael eu “beirniadu” am “geisio a methu plesio’r holl gynulleidfa Gymraeg.”
Galw am wasanaeth Cymraeg newydd
“Prin fod modd gwadu bod newidiadau enfawr yn y ffordd y mae cynulleidfaoedd, yn enwedig pobl ifanc, yn gwylio ac yn gwrando ar gynnyrch cyfryngol. Mae patrymau gwylio wedi newid, ac yn parhau i newid ar gyfradd aruthrol.
“Mae’n bryd felly am wasanaeth Cymraeg newydd sydd wedi ei gynllunio fel endid aml-lwyfan o’r dechrau’n deg, er mwyn symud y Gymraeg ymlaen.”
Bydd trafodaeth ‘Caru S4C – cryfhau’r Gymraeg yn y cyfryngau’ yn cael ei chynnal heddiw am 3.30pm yn San Steffan.