Gwynfor ab Ifor Llun: BBC
Mae prifardd, a oedd yn wreiddiol o Sling, ym Methesda wedi marw yn 61 oed.
Gwynfor ab Ifor a enillodd cadair Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch yn 2006 am awdl ar y thema Tonnau.
Cafodd ei eni yn Sling yn 1954 gan fynychu Capel Gorffwysfa a ddaeth yn gartref iddo ef a’i wraig Bethan Gwyn, a’u pedair o ferched Elin, Angharad, Mari a Rhiannon.
Fe raddiodd o Brifysgol Cymru yn 1975, cyn cael tystysgrif i raddedigion o Brifysgol Bangor yn 1976.
Fe dreuliodd gyfnod yn adran addysg Cyngor Gwynedd, a daeth yn brif swyddog gweinyddol y Coleg Normal o 1989 hyd uno’r sefydliad â’r Brifysgol yn 1996.
Bu’n uwch-gofrestrydd cynorthwyol gyda’r Brifysgol tan 2000. Wedi hynny, sefydlodd ei fusnes cyfieithu ei hun, sef Tasg.
Ymrysonau
Roedd yn gystadlwr brwd yn ymrysonau Barddas yn ystod yr 1980au, a bu’n cystadlu ar Dalwrn y Beirdd gyda thimau Dyffryn Ogwen a Thregarth.
Enillodd hefyd gadair Eisteddfod y Ffôr ger Pwllheli yn niwedd y 1970au a chystadlu am gadair Eisteddfod Meirion a’r cyffiniau yn 1997.
Yn 2006, fe’i cadeiriwyd yn brifardd, gyda beirniaid y gystadleuaeth, Dic Jones, Ceri Wyn Jones a Gerallt Lloyd Owen yn sôn am y “wefr” oedd yn ei awdl.
Roedd Gwynfor ab Ifor hefyd yn golygu cylchgrawn ar gyfer pobol ifanc yn Nyffryn Ogwen.
‘Bardd galluog a gwreiddiol’
Un a fu’n ffrind triw iddo oedd y Prifardd Ieuan Wyn o Fethesda, ac fe ddywedodd amdano, “roedd gan Gwynfor feddwl creadigol – yn fardd galluog a gwreiddiol. Yn ddarllenwr eang ac yn ddysgwr sydyn, gallai droi ei law at bob math o orchwylion a meistroli sgiliau mewn dim o dro.
“Fel gŵr annibynnol ei farn, byddai ei sylwadau ar faterion y dydd yn bendant a lliwgar – yn enwedig ar dynged Cymru a’r Gymraeg – ac roedd yn gwmnïwr ffraeth a bywiog.
“Mae’n chwith meddwl ei fod wedi’n gadael ac yntau ond 61 oed.”