Gwen Elin
Merch o Benllech, Ynys Môn sydd wedi cipio Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel eleni.

Fe gynhaliwyd y gystadleuaeth neithiwr, (nos Sul), yn Sefydliad y Glowyr yn y Coed  Duon ac fe’i darlledwyd ar S4C – wrth i Gwen Elin ddod i’r brig am ei pherfformiad “gwefreiddiol.”

Mae Gwen Elin yn astudio ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd, ond mae hi’n wyneb cyfarwydd ar S4C am ei chymeriad Lisa ar Rownd a Rownd.

Enillodd ysgoloriaeth werth £4,000 a  dywedodd ei bod yn “bwriadu defnyddio’r arian i ariannu ôl-radd mewn cerdd a drama unai mewn coleg yn Llundain neu Gaerdydd.”

‘Profiad anhygoel’

Bu rhaid i’r cystadleuwyr berfformio o flaen panel o feirniad gan gynnwys – Stifyn Parri, Gwawr Owen, Gwenan Gibbard, Siân Teifi a Catrin Lewis Defis.

Fe berfformiodd Gwen Elin y gân ‘Yn Sydyn Seymour’ o ‘Little Shop of Horrors’ a ‘Y Dewin a Fi’ allan o’r Sioe Gerdd ‘Side Show’.

“Mi oedd yn brofiad anhygoel cystadlu heno ac mi oedd pawb yn ffantastig – doeddwn i ddim yn disgwyl ennill o gwbl!  Mae’n deimlad hollol bisâr ac alla’i  ddim credu mod i wedi ennill,” meddai Gwen Elin.

Fel rhan o weithgareddau paratoi’r Ysgoloriaeth fe gafodd fynychu ddosbarth meistr gan seren y West End, Connie Fisher.

Mae hi’n aelod o Aelwyd yr Ynys a Chôr Merched Llewyrch, ac mae hi a’i brawd Deio wedi ffurfio parti canu i blant ardal Benllech, Ynys Môn o’r enw Plant Mathafarn.

‘Safon ragorol’

“Mi oedd y safon yn rhagorol heno ac mi allem ni fod wedi rhoi’r ysgoloriaeth i un o’r chwech, ond perfformiad Gwen aeth â hi – mi oedd rhywbeth hudolus am ei pherfformiad wnaeth i’r gynulleidfa eistedd ar flaen eu seddi,” meddai Stifyn Parri, un o’r beirniaid.

“Roedd yn wych fod yr enillwyr talentog hyn wedi dychwelyd i ardal Caerffili i gystadlu am yr ysgoloriaeth uchel ei bri hon.  Rwy’n hyderus y bydd yr ysgoloriaeth yn rhoi hwb werthfawr i yrfa berfformio Gwen ac edrychaf ymlaen at glywed beth fydd ei hanes yn y dyfodol,” meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Cafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu yn 1999 gyda’r nod o feithrin talentau rhai o berfformwyr ifanc blaenllaw Cymru.  Yn ogystal â’r wobr ariannol, mae’r ysgoloriaeth yn cyplysu enw’r enillydd gydag un o sêr amlycaf y byd perfformio heddiw, sef Bryn Terfel.