Byddai cyflwyno “cyfnod pellach o gyni” ar bendraw’r argyfwng yn “gamgymeriad”, yn ôl y Gweinidog Iechyd.
Daw sylwadau Vaughan Gething o ddadl deledu BBC Wales Live a ddarlledwyd ddoe (dydd Mercher 16 Rhagfyr).
Roedd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ac arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies, hefyd yn rhan o’r panel.
A daeth sylwadau’r gweinidog wedi i’r AoS Ceidwadol ddweud bod angen “mynnu Cymru well wrth ailadeiladu” ar ben draw’r argyfwng, a bod angen “buddsoddi mewn prosiectau isadeiledd”.
“Dyna pam ei fod yn siomedig bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi torri’r cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru,” meddai Vaughan Gething yn ymateb i hynny.
“Ac mi fydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru – a’i phartneriaid – wneud penderfyniadau mawr, ac mi fydd yn rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud penderfyniadau mawr ynghylch sut yr ydym yn buddsoddi yn y dyfodol. A byddai cyfnod pellach o gyni yn gamgymeriad hanesyddol.
“Dw i’n credu bydd yn rhaid i ni ystyried y penderfyniadau yma o’r newydd ledled y Deyrnas Unedig, oherwydd hoffwn i weld trefniant gwahanol mewn ystod o feysydd.”
Arholiadau
Bu’r gweinidog yn ateb cwestiynau oddi wrth y cyhoedd, ac ymhlith y rheiny a holwyd ef mi roedd disgybl lefel A.
Mi dynnodd hithau sylw at y drefn arholi a fydd mewn grym yng Nghymru flwyddyn nesa’, a’r ffaith bod arholiadau’n dal i fynd rhagddynt yn Lloegr. A holodd sut y byddai’r Llywodraeth yn sicrhau trefn deg.
“Wel, dydyn ni methu gwneud penderfyniadau dros Gavin Williamson [Ysgrifennydd Addysg Lloegr],” meddai Vaughan Gething. “Ei gyfrifoldeb e’ yw gwneud penderfyniadau dros Loegr.
“A dw i ddim wedi fy argyhoeddi o gwbl y bydd Lloegr wir yn bwrw ati â thymor arholiadau, oherwydd realiti cronafeirws ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.
“[Bydd gennym ni] ffordd wahanol o asesu cyraeddiadau mewn ffordd deg. Ac mae gen i dybiaeth gref y bydd Lloegr yn diweddu fyny yn y safle hynny cyn diwedd y flwyddyn.”
Dadlau cyn y ddadl
Roedd yna ryw faint o gwympo mas cyn y ddadl deledu, yn sgil adroddiadau mai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg ac Iechyd Meddwl, fyddai’n cynrychioli Llywodraeth Cymru.