Aled Morgan Hughes
Aled Morgan Hughes sydd yn edrych ar bwy allai elwa o gynlluniau arfaethedig y Ceidwadwyr …
Ers goresgyniad lled-annisgwyl y Ceidwadwyr i rym ychydig dros wythnos yn ôl, anodd yw dianc o’r iwfforia sydd wedi amlyncu’r wasg, wrth iddyn nhw rybuddio am gynlluniau Cameron a’i cronies am y pum mlynedd nesaf – yn eu plith; ymadael a’r Undeb Ewropeaidd, diddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol, ac ailgodi crachen y cwestiwn hela llwynogod.
Fodd bynnag, un agwedd sydd heb gael ei chrybwyll mor eang yw’r mater o ail-lunio ffiniau’r etholaethau.
Daeth y pwnc i’r amlwg gyntaf ym maniffesto 2010 y Ceidwadwyr, gyda’r amcan o dorri’r nifer o ASau o 10% – cynnig na chafodd ei wireddu gan y llywodraeth Glymbleidiol.
Fodd bynnag, fe ailymddangosodd yn eu maniffesto eleni, a’r tro hwn ar ôl i’r blaid ddychwelyd i rym heb y Democratiaid Rhyddfrydol, mae rhai wedi awgrymu mai dyma’r tro olaf y bydd yr ornest etholiadol yn cael ei ymladd ar draws 650 etholaeth.
Colli ASau Celtaidd
Yng ngwledydd Celtaidd Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, fe fyddai disgwyl colli 19 etholaeth, deg o’r rhain yng Nghymru, gan grebachu nifer ein seddau o’r 40 presennol i 30.
Yn ddaearyddol, a chymdeithasol, mae’r cynllun arfaethedig (gweler y map isod) yn un difyr, ac i rywun fel fi sydd yn hoff o feddwl “beth os?” mae’r posibiliadau gwleidyddol allai ein hwynebu yn 2020 o dan y fath drefn newydd yn ddiddorol iawn eu hystyried.
Mae’n bwysig nodi, fodd bynnag, nad ydi’r canlynol yn rhagfynegiad o ganlyniadau 2020 o bell ffordd.
Hel meddyliau ydw i yn seiliedig ar y tueddiadau hanesyddol, cymdeithasol a gwleidyddol sydd wedi amlygu eu hunain dros y degawdau diwethaf.
Y cynlluniau arfaethedig, a sut roedd pethau'n edrych yn yr etholiad eleni
Llafur yn adennill?
O dan y diwygiadau arfaethedig, mae’n edrych yn anochel ar hyn o bryd mai’r Blaid Lafur fyddai’n parhau fel grym goruchaf Cymru.
Yn y Gogledd Ddwyrain byddai disgwyl iddi gadw ei grym mewn etholaethau megis Alun & Glannau Dyfrdwy, Wrecsam & Maelor, a Sir y Fflint, gan barhau hefyd yn ei dominyddiaeth o’r Cymoedd (er gwaethaf her gynyddol Plaid Cymru a UKIP).
Yn y brifddinas fe fyddan nhw’n disgwyl cadw eu seddi presennol, ac er y sioc o weld y Ceidwadwyr yn dal eu gafael yng Ngogledd Caerdydd eleni, tybed a fyddai uno’r etholaeth â De Gwent yn helpu Llafur i’w hadennill?
Yn yr un modd, gyda buddugoliaeth y Ceidwadwyr o drwch blewyn yng Ngŵyr eleni, a fyddai ei huno gyda Gorllewin Abertawe yn rhoi’r bêl nôl yng nghwrt Llafur?
Brwydr yn y gogledd ddwyrain
Ac eithrio Gŵyr a Chaerdydd, mae’n anodd iawn rhagweld effaith y diwygiadau arfaethedig ar y Ceidwadwyr.
Gydag uniad Penfro, a diffyg newid sylweddol i Fynwy, dyn dewr fyddai’n mentro honni na fyddan nhw’n parhau i deyrnasu yn ‘British Wales’ Balsom. O dan amodau naturiol, mae’n annhebyg y buasen nhw’n colli grym ym Mro Morgannwg chwaith.
Un sedd, fodd bynnag, a allai brofi yn hynod ddiddorol fyddai Dinbych a Gogledd Maldwyn. Byddai hon yn hybrid o ddwy sedd Lafur a dwy sedd Geidwadol bresennol, ac fe allai hon fod yn sedd anodd iawn ei rhagweld gyda phosibilrwydd, ar ddiwrnod da iawn, i Blaid Cymru hefyd ymuno yn yr ymryson.
Tu hwnt i Ddinbych, byddai gobeithion y Ceidwadwyr hefyd yn uchel o ddal eu gafael yn etholaeth Conwy a Cholwyn ar yr arfordir gogleddol.
Paradocs i Plaid?
I Blaid Cymru, buasai’r fath ddiwygiad i’r etholaethau yng Nghymru yn baradocs. Yn egwyddorol byddai disgwyl iddynt wrthwynebu’r fath grebachiad o lais Cymru, ond beth sydd yn drawiadol yw’r modd y gallai fod o fudd etholiadol iddi.
Heb os, buasai’r uned o Wynedd a fyddai hefyd yn cwmpasu ardaloedd o Fachynlleth a Dyffryn Dyfi yn gadarnle creiddiol iddi, tra mae’n bosib iawn wrth uno’r ddau Gaerfyrddin, ynghyd a Môn a Bangor – er yr her debygol gan Lafur – y gallai tair sedd graidd, gyda’r strategaeth iawn, fod o fewn eu gafael.
Yn yr un modd, gan uno Ceredigion a Gogledd Penfro – atseiniad o’r sedd a feddiannodd Cynog Dafis yn 1992 – y gallan nhw, gyda’r ymgeisydd iawn ac ychwanegiad y Preseli, roi’r hwb hollbwysig i wthio Plaid Cymru heibio i’r Rhyddfrydwyr ym Mae Ceredigion.
Byddai’n llai na’r chwe sedd darged uchelgeisiol a osodwyd eleni, ond byddai’r fath ddiwygiad yn cynnig pedair sedd realistig iawn i’r Blaid, o’i gymharu â’r tair sedd sydd ganddi ar hyn o bryd.
Lle fyddai’r gweddill?
Gyda’r posibilrwydd byw o golli Ceredigion, pa obaith felly i’r Rhyddfrydwyr? I lawer, profodd colled Roger Williams ym Mrycheiniog yn dipyn o sioc.
Ond gyda’r cynlluniau arfaethedig yn awgrymu y byddai’r etholaeth yn ehangu i amlyncu ardaloedd mwy Rhyddfrydol De Maldwyn, megis Llanidloes, fe allan nhw ar ddiwrnod da gynnig her go iawn i’r Ceidwadwyr.
Ac eithrio Ceredigion, diffaith fyddai eu cyfleoedd mewn mannau eraill o dan yr amgylchiadau presennol.
Ac UKIP? Parhau heb Aelodau Seneddol fel mae’n edrych ar hyn o bryd!
Mi wnâi bwysleisio eto mai dim ond rhyw fân feddwl ydw i yn fan hyn, gan ystyried y sefyllfa ohoni heddiw a thueddiadau hanesyddol – fel y profwyd yn yr Alban eleni, mae newidiadau digynsail yn gallu digwydd mewn pum mlynedd.
Pwy a ŵyr pa fath o Gymru fydd yn 2020, ond fe allai’r map etholiadol yn un peth edrych tipyn yn wahanol!