Mae arweinydd undeb mwyaf Prydain wedi dweud nad yw’n cefnogi unrhyw gynlluniau i dorri’r cysylltiad gyda’r Blaid Lafur yn sgil y canlyniadau trychinebus yn yr etholiad cyffredinol.
Dywedodd Len McCluskey, ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite ei bod yn “gyfnod cyffrous” a chyfle i’r blaid atgyfodi ei hun.
Mae dyfalu wedi bod ynglŷn â’r cysylltiad hanesyddol rhwng yr undebau a Llafur ers i’r cyn arweinydd Ed Miliband gyflwyno diwygiadau’r llynedd.
Fe fydd cynadleddau’r undebau dros y misoedd nesaf yn sicr o drafod y berthynas.
Dywedodd Len McCluskey heddiw: “Does gynnon ni ddim cynlluniau i dorri’r cysylltiad gyda Llafur. Nid yw’r blaid erioed wedi bod mor unedig.”
Mae disgwyl i ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y blaid gymryd rhan mewn hystings mewn digwyddiadau sydd wedi cael eu trefnu gan yr undebau.