Mae Heddlu De Cymru wedi cael dirwy o £160,000 am golli DVDs oedd yn rhan o dystiolaeth achos llys yn ymwneud â cham-drin rhywiol.

Roedd y recordiad fideo yn dangos cyfweliad gyda dioddefwr, oedd yn honni cael ei gam-drin pan oedd yn blentyn.

Fe gafodd y DVDs eu gadael mewn drôr ym mis Awst 2011 ac ni chawsant eu hamgryptio a fyddai wedi rhwystro mynediad i unrhyw un oni bai’r heddlu.

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi gorchymyn bod yr heddlu yn talu dirwy o £160,000 am dorri rheolau data ac o fethu a gwarchod y dystiolaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De eu bod yn ystyried apelio yn erbyn y gosb “sylweddol.”

Camgymeriad

Daeth i’r amlwg bod y DVDs ar goll wedi i’r heddlu symud i swyddfa newydd ym mis Hydref 2011. Ond ni chafodd y camgymeriad ei gofnodi am bron i ddwy flynedd oherwydd diffyg hyfforddiant.

Bu’n rhaid i’r heddlu gynnal ail gyfweliad ond bu’n rhaid rhoi’r gorau iddo oherwydd pryder y dioddefwr. Yn y pen draw, fe gafwyd y diffynnydd yn yr achos yn euog ond mae’r DVDs yn parhau ar goll.

Methiannau difrifol

Meddai Anne Jones, Comisiynydd Cynorthwyol Cymru: “Yn bendant byddem yn disgwyl i lu heddlu proffesiynol, y mae pobl yn ymddiried ynddo, sy’n ymdrin â’r math hwn o wybodaeth sensitif iawn gan ddioddefwyr a thystion yn ddyddiol gael gweithdrefnau cadarn i gadw golwg ar y data personol sydd dan ei ofal.

“Mae’r sefydliad wedi methu cymryd yr holl gamau addas rhag prosesu data personol heb ganiatâd a’i golli yn ddamweiniol. Mae’r diffyg hwn yn un difrifol dros ben ac er gwaethaf cyfarwyddyd gan ein swyddfa, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Chymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu yn nodi ei bod yn hanfodol cael polisi ar gadw’r math hwn o wybodaeth nid ydynt wedi ymdrin â’r mater yn llawn eto.

“Dylai’r gosb ariannol a roddwyd i Heddlu De Cymru anfon neges glir bod raid i sefydliadau gymryd cyfrifoldeb am ddata personol a’r ffordd y mae’n cael ei gadw.”

Yn ychwanegol at y gosb ariannol, mae’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi gofyn i Heddlu’r De lofnodi ymrwymiad i sicrhau bod newidiadau yn cael eu gwneud i weithredu polisïau i atal unrhyw ddigwyddiadau rhag digwydd eto.

‘Cosb sylweddol’

Mewn ymateb, dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu’r De, Richard Lewis, bod y llu yn cymryd eu cyfrifoldeb am reoli data o ddifrif ac wedi ymddiheuro i’r dioddefwr:

“Pan ddaeth i’r amlwg beth oedd wedi digwydd, fe wnaeth Heddlu De Cymru gyfeirio’r mater at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a lansio ymchwiliad llawn. O ganlyniad, mae dau heddwas wedi derbyn cyngor a hyfforddiant.

“Mae Heddlu De Cymru yn derbyn penderfyniad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ond mae’n gosb ariannol sylweddol, yn enwedig mewn cyfnod o lymder.

“Ar hyn o bryd rydym yn ystyried a fyddwn ni’n apelio yn erbyn y penderfyniad.”