Nid yw pobol Cymru yn teimlo’n gyffyrddus wrth drafod marwolaeth ac mae hynny’n creu trafferthion i’w teuluoedd wedi iddyn nhw farw, yn ôl ymchwil newydd sydd wedi ei gyhoeddi ar y cyd gan gyngrhair Dying Matters.

Dim ond 18% o drigolion Cymru sydd wedi trafod eu dymuniadau diwedd oes hefo aelod o’r teulu.

Er hyn, mae 70% o’r rhai a holwyd yn cytuno y buasai’n llawer haws cyflawni dymuniadau diwedd oes petai pobol yn fwy cyfforddus yn trafod marw, marwolaeth a galar.

Datgelodd yr ymchwil mai dim ond:

  • 32% o oedolion yng Nghymru sydd yn dweud eu bod wedi ysgrifennu ewyllys;
  • 30% sy’n dweud bod ganddyn nhw yswiriant bywyd;
  • 26% sydd wedi trafod eu hangladd efo rhywun a
  • 7% sydd wedi ystyried eu dewisiadau ar gyfer gofal yn y dyfodol.

Roedd bron i dri chwarter y bobol (73%) hefyd yn cytuno y dylai gofal diwedd oes fod y rhan greiddiol o waith y Gwasanaeth Iechyd.

Newid  agwedd

Caiff yr ymchwil gan gwmni ComRes ei gyhoeddi i nodi Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Byw Nawr/Dying Matters (18-24 Mai).

“Mae’n rhaid i ni newid agwedd y genedl at farwolaeth fel ein bod i gyd yn gallu bod yn llawer gwell am drafod ein dymuniadau diwedd oes a gofyn i’r rhai yr ydym yn eu caru am eu dymuniadau nhw,” meddai Claire Henry, Prif Weithredwr Cynghrair Dying Matters.

“‘Dyw trafod marwolaeth a chynllunio o flaen llaw ddim yn hawdd, ond fe all ein helpu i wneud yn fawr o fywyd a gwarchod y rhai yr ydym yn eu caru rhag gorfod gwneud penderfyniadau anodd ar ein rhan neu ymateb i’r trafferthion os nad oes trefn ar ein pethau.”

Ychwanegodd Dr Hywel Francis Cadeirydd Byw Nawr: “Dylid byw bywyd i’r eithaf, ond mae’n gallu bod yn anodd rhagweld popeth.

“Dyma paham mae mor bwysig dweud beth yw eich cynlluniau a’ch dymuniadau wrth eich ffrindiau a’ch teulu tra yr ydych yn fyw ac yn iach.”