Barack Obama
Dewi Alter sydd yn trafod yr etholiadau seneddol diweddaraf ochr arall yr Iwerydd…

Yn dilyn canlyniad yr etholiadau canol tymor yn America’n ddiweddar gwelwn fod sefyllfa’r Arlywydd Barack Obama bellach yn un fregus.

Fe gollodd y Blaid Ddemocrataidd reolaeth o’r Senedd, un o ddwy siambr y Gyngres yn America, ble mae gan y Blaid Weriniaethol fwyafrif nawr o wyth (52 sedd i 44).

Cyn yr etholiad bu mwyafrif y Democratiaid yn fach, oherwydd yr etholiad yn 2010, â phoblogrwydd Obama’n disgyn dros y blynyddoedd diwethaf.

Er hynny y Democratiaid sydd wedi cael y mwyafrif yn y Senedd ers 2006.

Siom yn Obama

Lleisiodd pobl America’u barn. Maen nhw eisiau newid, ond nid newid ar dermau Barack Obama a’i griw, ond ar dermau’r Blaid Weriniaethol.

Wrth edrych ar y tro diwethaf i Arlywydd golli’r ddwy siambr, yn 2006 gyda George W Bush fel Arlywydd, fe roddodd hynny gyfle i’r Blaid Ddemocrataidd gipio’r Arlywyddiaeth oddi ar y Blaid Weriniaethol.

Dw i’n siŵr y bydd yr un peth y digwydd yn 2016 gyda’r ras am y Tŷ Gwyn, pan rwy’n disgwyl gweld Arlywydd o’r Blaid Weriniaethol yna, heb amheuaeth.

Pam? Oherwydd methiant arlywyddiaeth Obama i ddilyn y rhan fwyaf o’i addewidion, fel yr addewid i gael cynilon ar gyfer henoed difreintiedig y wlad.

Nid wyf yn sarhau polisïau Obama, anodd credu mewn gwlad lle gwelwn y gwasanaeth iechyd, er y gost, yn gwneud llawer o dda i’r wlad. Mae Obamacare yn syniad gwych, ac yn ogystal mae tynhau cyfreithiau drylliau’n bwysig.

Problem Obama yw ei fod yn rhy wan fel Arlywydd. Yn y ras yn 2008 fe awgrymodd John McCain fod Obama yn ormod o seren i fod yn Arlywydd da, a phrofwyd hyn yn wir gyda dirywiad yn ei gefnogaeth ers y flwyddyn gyntaf.

Methu denu etholwyr

Mae perffaith hawl gan Ddemocratiaid heddiw ofyn beth sydd wedi digwydd i Barack Obama. Mae’n glir mai Obama yw un o’r prif resymau, os nad y prif reswm, dros y Blaid Ddemocrataidd yn colli’u mwyafrif yn y Senedd.

Derbyniodd y bai’n gyhoeddus dros golled y siambr ar 9 Tachwedd. Nawr, fe welwn Obama fel ‘lame duck president’.

Doedd nifer o Ddemocratiaid ddim hyd yn oed yn awyddus i gael yr Arlywydd yn bresennol wrth iddyn nhw ymgyrchu am y ras, gyda’r gred y byddai ei boblogrwydd o tua 40% yn y polau piniwn yn gwneud mwy o niwed nag o les.

Ym mhob etholiad canol tymor mae nifer y rhai sydd yn pleidleisio yn is nag etholiad arlywyddol – dyna yw’r disgwyl.

Ond eleni ni welwyd lefelau mor isel o bleidleisio yn America ers yr Ail Ryfel Byd ym 1942. 36.4% o bobl bleidleisiodd yn ystod yr etholiad, 4% yn is na’r etholiad blaenorol, ond pam?

Oherwydd methiant y pleidiau, yn enwedig y Democratiaid, i annog eu cefnogwyr i bleidleisio.

Pe bai’r Democratiaid wedi annog pobl du’r wlad i bleidleisio, does dim amheuaeth y byddan nhw wedi ennill yr etholiad canol tymor a chadw’r Senedd.

Fe allan nhw hyd yn oed fod wedi ennill seddi yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr ond yn lle hynny tyfodd mwyafrif y Blaid Weriniaethol i 12, sydd bellach ar 244 o seddi o’i gymharu â 184 y Democratiaid.

Colli ffydd

Pam y dirywiad yn y gefnogaeth i’r Blaid Ddemocrataidd mor sydyn? Nid methiant llwyr fu arlywyddiaeth Barack Obama, er ei fod e’n amlwg yn un o’r prif ffactorau.

Nid oes unrhyw un yn canolbwyntio ar lwyddiannau Obama ond oherwydd ei wendid yn ystod y ‘shutdown’ yn 2012 collodd nifer o’r blaid ffydd ynddo, a nifer o’i gefnogwyr ffydd yn ei gryfder fel arweinydd.

Nid yw’r blaid wedi ysgogi diddordeb gwleidyddol ymysg bobl ddu, yr Hispaniaid na chwaith y bobl ifanc sydd i gyd yn dueddol, fel arfer, o bleidleisio dros y Blaid Ddemocrataidd.

Dim ond 12% o bobl a bleidleisiodd oedd o dan 30, lle’r oedd 37% dros 60, cefnogwyr traddodiadol y Blaid Weriniaethol.

Bydd hi’n ddiddorol gweld ymddygiad gwleidyddol America ar y llwyfan rhyngwladol gyda thueddiadau adain dde’r blaid sydd bellach yn rheoli’r Gyngres. Yn enwedig gyda’r argyfyngau o ganlyniad i fygythiad y grŵp eithafol IS.