Ed Miliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband yn mynnu y gall arwain ei blaid i fuddugoliaeth yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.

Er gwaethaf cecru o fewn ei blaid ei hun, dywed Miliband ei fod wedi’i ysbrydoli gan ddyhead i ddatblygu Prydain, ac nid gan uchelgais personol.

Wrth annerch cynulleidfa yn Llundain, dywedodd Ed Miliband: “Mae yna ddywediad ‘gwnaiff yr hyn sy ddim yn eich lladd chi eich gwneud chi’n gryfach’.

“Fel arweinydd yr wrthblaid, dw i wedi dysgu yn ystod y dyddiau diwethaf beth yw ystyr hynny.

“Mae angen gwytnwch arnoch chi yn y swydd hon, mae angen croen trwchus arnoch chi, ond yn bennaf oll mae angen i chi gredu yn yr hyn rydych chi’n ei wneud.”

Gweledigaeth

Ychwanegodd fod angen i’r Blaid Lafur gredu y gallan nhw ennill yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Miliband y dylai unrhyw un sy’n credu bod ei swydd yn un hawdd roi ystyriaeth i swyddi anodd go iawn fel “gwaith shifftiau, gwaith yn y nos, cytundebau oriau sero. Chwedeg awr yr wythnos. Dwy swydd, tair swydd hyd yn oed, i gael deupen y llinyn ynghyd”.

Ychwanegodd ei fod yn barod i gael ei feirniadu pe bai’r feirniadaeth er lles y cyhoedd.

“Dyna fy nyletswydd, dyna fy nghyfrifoldeb. Dyna ein dyletswydd ni, ein cyfrifoldeb ni.”

Dywedodd Miliband ei fod dan bwysau, nid oherwydd bod y pleidiau eraill yn credu y byddai Llafur yn colli’r etholiad ond yn hytrach “oherwydd eu bod nhw’n ofni y gallwn ni ennill”.

Wrth amlinellu ei weledigaeth, dywedodd Miliband fod “y wlad ond yn gweithio i’r ychydig rai sy’n freintiedig ac nid ar gyfer y mwyafrif”.

Ychwanegodd ei fod am fod yn Brif Weinidog gan fod Prydain yn “hynod anghyfartal, yn hynod annheg ac yn hynod anghyfiawn”.