Llun o'r robot ar y gomed
Mae’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) wedi rhyddhau’r llun cyntaf sydd wedi cael ei dynnu gan ei long ofod robotaidd ar ôl iddi lanio ar gomed am y tro cyntaf mewn hanes.
Fe laniodd y robot Philae ar y gomed 67P/Churyumov-Gerasimenko, sydd 316 miliwn o filltiroedd i ffwrdd o’r ddaear, ddydd Mercher.
Roedd pryderon nad oedd y robot wedi medru sefydlogi ei hun, ond mae gwyddonydd o’r ESA yn dweud ei fod bellach yn sefyll yn gadarn.
Mae’n cael ei ddefnyddio i gasglu data a’i drosglwyddo yn ôl i’r ddaear.
Gobaith y gwyddonwyr sy’n gweithio ar genhadaeth Rosetta yw y bydd yn rhoi mwy o wybodaeth am y system solar, y byd ac efallai bywyd.