Nigel Owens
Mae penaethiaid rygbi yn Lloegr yn cynnal ymchwiliad i sylwadau homoffobig honedig yn erbyn y dyfarnwr Nigel Owens ddydd Sadwrn diwethaf.
Roedd y Cymro, sy’n hoyw, yn dyfarnu’r ornest rhwng Lloegr a Seland Newydd pan gafodd sylwadau homoffobig eu hanelu ato gan rywrai yn y dorf.
Tynnodd cefnogwr sylw at y digwyddiad mewn llythyr i bapur newydd y Guardian ddechrau’r wythnos.
Dywed yr RFU – y corff sy’n rheoli’r gêm yn Lloegr – eu bod yn trin yr honiadau’n “ddifrifol iawn”.
Mae Owens wedi galw am wahardd y cefnogwyr os yw’r honiadau’n cael eu profi.
Dywedodd wrth bapur newydd y Daily Telegraph: “Os yw rhywun wedi trafferthu i anfon llythyr i’r papur a dweud bod hyn yn afiach a bod yr ymddygiad yn hollol annerbyniol, yna byddwn i’n meddwl fod yr hyn wnaethon nhw ei weiddi’n eitha’ gwael ac os felly, fe ddylai’r bobol hyn gael eu gwahardd o’r gêm.
“Mae angen dweud wrthyn nhw fod yr ymddygiad yma’n annerbyniol, fod y llinell hiwmor a chellwair yn denau iawn ac os ydych chi’n ei groesi, yna rhaid i chi dderbyn y canlyniadau.”