Ched Evans
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi ymuno yn y drafodaeth am Ched Evans, gan ddweud na ddylai’r chwaraewr pêl-droed gafodd ei garcharu am dreisio merch, fod wedi cael dychwelyd i hyfforddi hefo tîm Sheffield United.
Dywedodd Nick Clegg, sydd hefyd yn AS tros Sheffield, na fyddai o wedi gadael Ched Evans yn ôl ar y cae hyfforddi yn dilyn ei gyfnod dan glo pe bai’r penderfyniad yn ei ddwylo ef.
Er hyn, dywedodd nad oedd yn credu y dylai gyrfa cyn-ymosodwr Cymru Ched Evans ddod i ben, ond roedd yn awgrymu y dylai fynd i chwarae gyda thîm o dramor.
Cafodd Evans ei ryddhau o’r carchar yn ddiweddar, wedi iddo dreulio dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio dynes 19 oed mewn gwesty yn y Rhyl.
‘Ystyried o ddifrif’
Yn ôl Nick Clegg, fe ddylai Sheffield United “ystryried o ddifrif” am rôl Ched Evans o fewn y clwb, gan fod nifer o bobol ifanc yn debygol o’i edmygu.
“Mae chwaraewyr pêl-droed yn chwarae rôl bwysig iawn yn y gymuned ac oherwydd hyn faswn i ddim yn ei adael yn ôl.”
Mae sawl noddwr i Sheffield United wedi ymddiswyddo yn sgil y penderfyniad i groesawu Ched Evans yn ôl i hyfforddi gyda’r tîm, a nifer o ASau a ffigyrau cyhoeddus wedi galw ar y clwb i ail-ystyried eu penderfyniad.
Dydy’r clwb ddim eto wedi gwneud penderfyniad ynghylch ail-arwyddo’r chwaraewr.