Mae Cymdeithas Bêl-droed Ryngwladol, FIFA, wedi cyhoeddi bod Qatar wedi osgoi unrhyw gyhuddiadau o dwyll fyddai’n bygwth eu siawns i gynnal twrnament Cwpan y Byd yn 2022.

Cafodd  canlyniad ymchwiliad gan bwyllgor moeseg annibynnol FIFA ei gyhoeddi y bore ma.

Ond yn yr adroddiad, mae tîm pêl-droed Lloegr wedi dod dan y lach am geisio hwyluso eu cais i gynnal Cwpan y Byd 2018. Credir bod y clwb wedi gwario £35,000 ar swper gala i swyddogion pêl-droed Caribî ac wedi trefnu gem gyfeillgar yn erbyn Trinidad.

Mae’r ymchwiliad gan y cyfreithiwr Americanaidd Michael Garcia wedi edrych ar geisiadau gan yr holl wledydd oedd wedi rhoi cais yn 2010 i gynnal y twrnament.

Cafodd ymchwiliad ei gynnal ar ôl i bapur y Sunday Times ddweud ei fod wedi gweld dogfennau oedd yn honni bod cais Qatar wedi bod yn llwyddiannus yn dilyn ymgyrch gudd gan gyn-ddirprwy lywydd Fifa yn Qatar, Mohamed bin Hammam.

Roedd honiadau ei fod wedi llwgrwobrwyo uwch swyddogion er mwyn ennyn cefnogaeth i gais Qatar.

Nid oes disgwyl y bydd Lloegr nac unrhyw dim arall yn cael eu disgyblu am eu gweithredoedd ond credir y bydd argymhellion yn cael eu gwneud ar sut mae FIFA yn delio a cheisiadau yn y dyfodol.

‘Cais tryloyw’

Wrth ymateb i adroddiad 42 tudalen gan FIFA, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Lloegr nad yw’n derbyn eu beirniadaeth.

“Doedden ni ddim wedi ein hysbysu am yr adroddiad ymlaen llaw cyn ei gyhoeddi.

“Dydyn ni ddim yn derbyn unrhyw feirniadaeth ynghylch gonestrwydd cais Lloegr nac unrhyw un o’r unigolion dan sylw.

“Gwnaethon ni lansio cais tryloyw ac fel mae’r adroddiad yn dangos wrth gyfeirio at “gydweithrediad llawn a gwerthfawr” tîm Lloegr, fe wnaethon ni gydweithio â’r ymchwiliad yn barod iawn.

“Rydym yn mynnu bod tryloywder a chydweithrediad ynghylch y broses hon gan bawb yn hanfodol i’w hygrededd.”

‘Gwyngalchu’

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi nad oedd yn fwriad gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr i daflu cysgod dros onestrwydd y broses geisiadau.

Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Damian Collins yn dweud bod yr adroddiad yn “gwyngalchu”.

Dywedodd wrth y Press Association mai “ymgais i dwyllo pobol y cafwyd ymchwiliad llawn ac annibynnol” yw’r adroddiad.

Ychwanegodd fod honiadau o dwyll a chamymddwyn difrifol heb gael eu datrys, a chyhuddodd FIFA o archwilio’i hun a’i ganfod ei hun “yn ddieuog”.