Ched Evans
Y canwr pop o’r 1960au, Dave Berry yw’r noddwr diweddaraf i ymddiswyddo o glwb pêl-droed Sheffield Utd.
Daw’r cyhoeddiad yn sgil penderfyniad y clwb i ganiatâu i’r ymosodwr Ched Evans ddychwelyd i’r cae ymarfer.
Cafodd Evans ei ryddhau o’r carchar yn ddiweddar, wedi iddo dreulio dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio dynes mewn gwesty.
Dywedodd Berry fod y modd y mae Sheffield Utd wedi ymdrin â’r sefyllfa’n “warthus”.
“Dydyn ni ddim wedi cael ei ymateb o ran ymddiheuriadau na chydymdeimlad â’r ddynes na’i theulu.
“Mae fel pe bai e wedi wfftio’r cyfan fel pe na bai e wedi digwydd.”
Daw ymddiswyddiad Berry ar y diwrnod y penderfynodd y gyflwynwraig SKY Sports, Charlie Webster – un arall o noddwyr y clwb – ei bod hithau am ymddiswyddo hefyd.
Yn ôl adroddiadau, mae’r wraig fusnes leol Lindsay Graham hefyd wedi penderfynu ymddiswyddo, er nad oes cadarnhad ar hyn o bryd.
Dydy’r clwb ddim eto wedi gwneud penderfyniad ynghylch ail-arwyddo’r chwaraewr.
Ychwanegodd Dave Berry na fyddai’n gwylio gemau Sheffield Utd pe bai Evans yn cael chwarae unwaith eto.