Ar drothwy gêm ragbrofol enfawr i Gymru draw yng Ngwlad Belg ar ddydd Sul, mae hyfforddwr y tîm Osian Roberts wedi dweud ei fod yn “hyderus” y gall bechgyn Chris Coleman sicrhau canlyniad positif.

Ond pa mor hyderus yw bechgyn pod pêl-droed golwg360? Ydyn nhw’n credu y gall Cymru efelychu’r pwynt y cawson nhw yno llynedd, neu wneud hyd yn oed yn well?

Yn ymuno ag Owain Schiavone a Iolo Cheung heddiw mae Rhys Hartley a Tommie Collins, dau gefnogwyr sydd ymysg y miloedd o Gymry fydd yn teithio i Frwsel dros y penwythnos.

Mae’r pedwar yn asesu carfan Chris Coleman a phwy maen nhw am weld yn dechrau yn yr amddiffyn, gyda James Chester, James Collins, Ben Davies, Neil Taylor a Paul Dummett i gyd yn cystadlu am safle.

Yn ogystal â hynny mae’r criw yn trafod anaf diweddaraf Jonathan Williams ac yn holi beth yw ei ddyfodol ef, yn ogystal â phendroni pam nad yw Craig Davies wedi’i enwi.

Yn olaf, mae’r sylw yn troi at achos Ched Evans, a’r newyddion yr wythnos hon ei fod wedi dechrau ymarfer â Sheffield United eto.

Gwrandewch, a mwynhewch – gydag ychydig o gerddoriaeth gan y Barry Horns ar ddechrau’r pod: