Ched Evans
Mae Aelod Seneddol wedi galw ar dîm pêl-droed Sheffield United i ail-ystyried eu penderfyniad i adael i’r treisiwr Ched Evans hyfforddi gyda’r tîm.
Yn ôl Paul Blomfield, yr AS tros Ganol Sheffield sy’n berchen a rhan o’r clwb pêl-droed, mae gadael Ched Evans yn ôl ar y cae ymarfer yn “tynnu ein henw trwy’r baw ac yn gwahanu cefnogwyr.”
Mewn llythyr agored at gyd-gadeiryddion y clwb, Kevin McCabe a Jim Phipps, mae’r AS yn dweud: “Am fy mod i’n meddwl gymaint o’r clwb, rwy’n eich annod i ailystyried gadael Ched Evans yn ôl i hyfforddi gyda’r tîm.”
Cafodd Evans ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar am dreisio merch mewn gwesty yn Y Rhyl. Cafodd ei ryddhau yn ddiweddar ar ôl treulio dwy flynedd a hanner dan glo.
Mae’r gyflwynwraig Charlie Webster, eisoes wedi ymddiswyddo fel noddwr y clwb tros y penderfyniad i groesawu cyn-ymosodwr Cymru yn ôl.
Neges
Ychwanegodd Paul Blomfield y dylai pobol sy’n eu cael yn euog o droseddau difrifol fel treisio orfod delio a difrifoldeb eu gweithredoedd.
“Ers cael ei ryddhau, nid yw Ched Evans wedi cymryd unrhyw gam i adfer ei hun ac mae wedi bychanu ei drosedd trwy ei ddisgrifio fel ‘gweithred o anffyddlondeb’.
“Mae ei groesawu yn ôl o dan yr amgylchiadau yma yn gyrru neges wael iawn i bobol ifanc a’r rhai sydd wedi dioddef o drais rhywiol, am sut mae treisio yn cael ei ystyried.”
Dywedodd pennaeth y clwb, Nigel Clough, nad yw Sheffield Utd yn ystyried cynnig cytundeb i Ched Evans a’i fod yn ôl ar y cae ymarfer yn dilyn cais gan yr Asiantaeth Pêl-droedwyr Proffesiynol.