Nigel Owens
Mae’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens wedi cael ei sarhau’n hiliol ac ar sail ei rywioldeb, yn ôl llythyr i bapur newydd y Guardian.

Yn y llythyr, dywedodd Keith Wilson o Dde Swydd Efrog fod “sylwadau sarhaus, cas, ffiaidd, hiliol a homoffobig” wedi cael eu hanelu at y dyfarnwr yn ystod y gêm rhwng Lloegr a Seland Newydd yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Ychwanegodd y cefnogwr ei fod yn “teimlo cywilydd” o glywed y sylwadau.

Dywedodd ei fod wedi siarad â’r sawl a wnaeth y sylwadau “ond doedden nhw ddim mewn cyflwr digonol i gael trafodaeth synhwyrol”.

Ychwanegodd y llythyr: “Rwy’n tybio pe bai wedi digwydd mewn gêm bêl-droed y bydden nhw wedi cael eu taflu allan.”