Ched Evans
Mae’r gyflwynwraig SKY Sports, Charlie Webster wedi ymddiswyddo fel noddwr clwb Sheffield United yn sgil eu penderfyniad i groesawu ymosodwr Cymru, Ched Evans yn ôl i’r cae ymarfer.

Cafodd Evans ei ryddhau o’r carchar yn ddiweddar ar ôl treulio dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio merch mewn gwesty yn Y Rhyl.

Datgelodd Webster yn gynharach eleni bod rhywun wedi ymosod yn rhywiol arni pan oedd hi yn ei harddegau, ac mi addawodd y byddai’n gadael Sheffield United pe bai Evans yn cael dychwelyd.

Ddydd Mawrth, dywedodd y clwb nad oedden nhw wedi gwneud penderfyniad am ddyfodol Evans, ond eu bod nhw wedi cytuno gyda Chymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol y câi ymarfer gyda nhw.

Ar raglen Newsnight y BBC, dywedodd Charlie Webster nad yw’r clwb wedi cydnabod pa mor ddifrifol oedd y drosedd.

Ond mewn datganiad, dywedodd y clwb eu bod nhw wedi ystyried safbwyntiau staff, y Gynghrair Bêl-droed, cefnogwyr y clwb a’r cyhoedd wrth wneud penderfyniad ynghylch Evans.