Osian Roberts (chwith) gyda rheolwr Cymru Chris Coleman (llun: CBDC)
Mae hyfforddwr Cymru Osian Roberts yn mynnu’i fod yn “hyderus” y gall Cymru gipio canlyniad positif pan fyddwn nhw’n herio Gwlad Belg dydd Sul.
Bydd Cymru’n teithio i Frwsel ar gyfer y gêm ar 16 Tachwedd ar frig eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016, ar ôl trechu Andorra a Chyprus a chael gêm gyfartal yn erbyn Bosnia-Herzegovina.
Ond does dim amheuaeth mai’r gêm yn erbyn Gwlad Belg fydd her fwyaf Cymru yn yr ymgyrch hyd yn hyn, gyda’u gwrthwynebwyr yn cael eu hystyried yn un o dimau gorau’r byd.
Ar hyn o bryd mae tîm Marc Wilmots yn bedwerydd yn rhestr detholion y byd, ac fe gyrhaeddon nhw rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd ym Mrasil dros yr haf.
Ond fe lwyddodd Cymru i gipio gêm gyfartal 1-1 ym Mrwsel llynedd, ar ddiwedd yr ymgyrch ragbrofol ddiwethaf, ac mae Osian Roberts yn mynnu’i bod hi’n bosib i’r tîm efelychu hynny.
“Mae unrhyw ganlyniad, yn enwedig oddi cartref, yng ngwlad Belg yn mynd i fod yn bositif iawn,” cyfaddefodd yr hyfforddwr wrth golwg360.
“Os ‘da ni’n cael y perfformiad ‘da ni angen, bod yn drefnus, bod yn ddisgybledig, ac ar yr un pryd bod yn ymosodol pan mae’r cyfnodau’n dod, yna ‘da ni’n gobeithio wrth gwrs y gallwn ni gael rhywbeth allan o’r gêm.
“Dyna ydi’r nod, a ‘da ni’n hyderus allwn ni wneud hynny, ond mae’n rhaid i ni fod ar ein gorau i gael unrhyw beth allan o’r gêm.”
Gallwch wrando ar sgwrs Iolo Cheung ag Osian Roberts yma:
Ysbryd y garfan
Yn ffodus i Coleman does dim cymaint o’i chwaraewyr ag arfer yn absennol oherwydd anafiadau ar gyfer y gêm yng Ngwlad Belg, yn wahanol i’r ddwy gêm yn erbyn Bosnia a Chyprus ym mis Hydref pan oedd 11 ohonynt ar goll.
Mae’r holl brif sêr ar gael gan gynnwys Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen ac Ashley Williams – ac fe fydd y staff hyfforddi’n croesi bysedd nad yw unrhyw un ohonyn nhw’n anafu wrth ymarfer yr wythnos hon.
Llwyddodd Cymru i gael dau ganlyniad da ym mis Hydref er gwaethaf absenoldebau Ramsey ac Allen, ac wrth edrych yn ôl ar y ddwy gêm honno mae Osian Roberts yn gweld digon o bethau calonogol.
“Wrth gwrs mae ‘na elfennau sy’n ein plesio ni’n dechnegol, yn dactegol, yn gorfforol hefyd efo dwy gêm mor agos at ei gilydd,” meddai Osian Roberts, sydd yn aelod o staff cynorthwyol y rheolwr Chris Coleman.
“Felly mae ‘na nifer o agweddau sy’n ein plesio, bod ni’n drefnus, yn amddiffynnol gryf, bod ni’n anodd iawn i’n torri lawr boed hynny efo 11 neu efo deg dyn [fel yr ail hanner yn erbyn Cyprus pan gafodd Andy King gerdyn coch].
“Ond y peth mwyaf sy’n sefyll allan ar hyn o bryd ydi’r agosatrwydd ‘na sydd gan y bechgyn tuag at ei gilydd, dynamics y grŵp, sut mae hynny wedi aeddfedu ac wedi tyfu yn sicr dros y deuddeg mis diwethaf.
“Ac erbyn hyn wrth gwrs hefo’r wlad tu ôl iddyn nhw, a’r cefnogwyr mor gyffrous, mor gefnogol tu ôl iddyn nhw, mae hynny’n tueddu i ddod â phethau at ei gilydd.
“Felly’r ysbryd yna sydd ‘di gwneud y mwyaf o wahaniaeth dw i’n meddwl.”
Bygythiad Gwlad Belg
Mae Cymru’n hen gyfarwydd erbyn hyn â bygythiadau sêr Gwlad Belg, gyda llawer ohonynt yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr a rhai o brif glybiau eraill Ewrop.
Gyda charfan sydd yn cynnwys y golwr Thibaut Courtois a’r asgellwr Eden Hazard o Chelsea, amddiffynnwr Man City Vincent Kompany, ac ymosodwr Everton Romelu Lukaku, Gwlad Belg fydd y ffefrynnau clir dydd Sul heb os.
Ond mae gan Gymru eu bygythiadau eu hunain, neb yn fwy na chwaraewr drytaf y byd, Gareth Bale.
“Da ni’n gwybod beth i ddisgwyl, ‘da ni ‘di chwarae nhw ddwywaith wrth gwrs yn eithaf diweddar, ‘da ni ‘di gweld nhw yng Nghwpan y Byd … ac maen nhw wedi cael dechrau da i’r gystadleuaeth [Ewro 2016] yma,” meddai Osian Roberts.
“Mae genna nhw chwaraewyr unigol da o’r safon uchaf, ‘da ni’n gwybod hynny, a ‘da ni’n gwybod fod nhw yn un o’r timau gorau yn y byd am wrthymosod, felly mae ‘na beryglon a bydd rhaid i ni fod yn wyliadwrus ohonyn nhw.
“Ond ar yr un pryd ‘da ni’n teimlo bod genna ni’r math o chwaraewyr allai greu problem iddyn nhw hefyd, felly mae’n mynd i fod yn gêm ddiddorol iawn dw i’n meddwl, a ‘da ni ar hyn o bryd yn teimlo y gallwn ni fynd yna ac unwaith eto cael rhywbeth allan o’r gêm.
“Mi wnaethon ni lwyddo i wneud hynny’r tro diwethaf aethon ni yna, ond ‘da ni hefyd yn gwybod bod rhaid i ni fod ar ein gorau un i gael rhywbeth allan o’r gêm.”