Rhys Priestland
Mae rheolwr tîm rygbi Cymru Warren Gatland wedi beirniadu cefnogwyr Cymru fu’n gyfrifol am fwio’r maswr Rhys Priestland yn ystod y gêm yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.
Cafodd Priestland, a fydd yn dechrau yn erbyn Fiji y penwythnos hwn, ei wawdio gan adran fechan o’r cefnogwyr cartref pan ddaeth ymlaen yn lle Dan Biggar a anafwyd yn fuan ar ôl hanner amser.
Mae Warren Gatland bellach wedi amddiffyn y chwaraewr 27 mlwydd oed.
Meddai Warren Gatland: “Ro’n i’n meddwl fod Priestland wedi gwneud yn reit dda pan aeth ar y cae dros y penwythnos.
“Mae’r ffordd y mae pethau erbyn hyn gyda chyfryngau cymdeithasol, ry’ch chi’n teimlo dros Rhys ychydig am ei fod wedi ei chael hi ar gyfryngau cymdeithasol gan rai pobl.
“Mae e’n ddyn ifanc a oedd ar un adeg wedi ystyried rhoi’r gorau i’r gêm am nad oedd yn werth cymryd y fath feirniadaeth bersonol.”
Wrth siarad am y gêm yn erbyn Fiji ddydd Sadwrn, meddai Warren Gatland: “Rwy’n gobeithio y bydd o’n mynd allan ar y cae, yn chwarae yn dda ac yn codi dau fys at yr adran o’r dorf oedd wedi bod yn ei fwio’r wythnos diwethaf.
“Dydw i ddim yn credu bod angen y math yna o beth yn y gêm.”