Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, wedi ymddiswyddo o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Daw ei ymddiswyddiad ar yr un noson â diswyddiad Michael Gove – yr Ysgrifennydd Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau – ar ôl i Gove annog Boris Johnson i gamu o’r neilltu.
“Heno, cyflwynais fy llythyr o ymddiswyddiad i’r Prif Chwip,” meddai Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro ar Twitter.
Yn ei lythyr, dywedodd ei fod e “wedi gobeithio’n fawr” y gallai “osgoi ysgrifennu’r llythyr hwn”, ond nad oedd ganddo “opsiwn arall” ond camu o’i swydd.
Ond roedd yn llawn canmoliaeth i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, gan ddweud y bydd e’n cael ei gofio am ei “egni, gweledigaeth, dyfalbarhad a hiwmor”.
“Doedd yna’r un foment ddiflas fel Gweinidog yn eich Llywodraeth, a byddaf bob amser yn ddiolchgar o fod wedi cael y cyfle i fod yn rhan ohoni,” meddai.
“Dw i erioed wedi bod yn ffan mawr o ymddiswyddiadau Gweinidogol fel y ffordd orau o orfodi newid.
“Mae cydweithwyr wedi gwneud eu gorau glas yn breifat ac yn gyhoeddus i’ch helpu chi i wyrdroi’r llong, ond gyda thristwch rwy’n teimlo ein bod ni wedi mynd y tu hwnt i’r fan lle mae hyn yn bosib.”
Mae James Davies, Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, hefyd wedi gadael ei rôl yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat yn yr Adran Iechyd, gan ddweud nad oes modd llywodraethu’r blaid na’r wlad o dan arweiniad Boris Johnson, a’i bod yn “amhosib amddiffyn” y prif weinidog “yn wyneb honiadau a chanfyddiadau niweidiol”.
Now that @Simonhartmp has finally found a backbone and resigned – let’s make sure that he’s the last Secretary of State for Wales #Annibyniaeth #Independence ??????? pic.twitter.com/GMFMRLaNR6
— Liz Saville Roberts AS/MP ??????? (@LSRPlaid) July 6, 2022