Fe wnaeth 25% yn fwy o bobol ymweld â Chymru yn ystod hanner tymor mis Mai eleni o gymharu â chyn y pandemig.
Yn ôl Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru, fe wnaeth 38% o fusnesau lletygarwch groesawu mwy o gwsmeriaid nag arfer dros ŵyl banc y Jiwbilî.
Mae ystadegau a gafodd eu cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 7), yn dangos bod 75% o fusnesau twristiaeth Cymru naill ai wedi gweld cynnydd mewn lefelau ymwelwyr neu fod y lefelau wedi aros yr un fath dros gyfnod yr hanner tymor eleni.
‘Twf cynaliadwy’
Fodd bynnag, mae Mark Drakeford yn dweud bod angen i dwristiaeth dyfu er budd Cymru, “sy’n golygu bod angen gweithio gyda chymunedau, ymwelwyr a busnesau i sicrhau twf cynaliadwy yn y sector”.
Er bod arwyddion bod cryfder yn y sector, mae yna bryderon am y ffordd mae costau byw’n codi a sut y bydd pobol yn gallu fforddio mynd ar wyliau.
Yn y cyfamser, mae’r gost o weithredu busnes yn codi’n sylweddol, er bod busnesau’n ceisio osgoi codi prisiau i gwsmeriaid oherwydd yr ofn o brisio’u hunain allan o’r farchnad.
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod busnesau twristiaeth Cymru wedi cael hwb gan ŵyl banc y Jiwbilî, ond serch hynny mae’n amser pryderus i’r sector, gyda chwyddiant ar i fyny, costau gweithredu’n codi, a heriau o ran recriwtio staff,” meddai Mark Drakeford wrth ymweld â Llanusyllt yn Sir Benfro.
“Byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr bod tymor yr haf yng Nghymru yn llwyddiant.
“Ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yw sicrhau bod twristiaeth yn tyfu er budd Cymru, sy’n golygu bod angen gweithio gyda chymunedau, ymwelwyr a busnesau i sicrhau twf cynaliadwy yn y sector hwn.”
Mae ymchwil pellach gan Domestic Sentiment Tracker Visit Britain yn dangos bod 39% o ymatebwyr yn dweud eu bod nhw’n fwy tebygol o ddewis ymweld â rhywle yn y Deyrnas Unedig yn lle mynd dramor, o gymharu â chyn y pandemig.
Y prif resymau dros y dewis yw ei bod hi’n haws trefnu gwyliau yn y Deyrnas Unedig, a bod ciwiau hir mewn meysydd awyr ac awyrennau’n cael eu canslo.
‘Mentro i fannau newydd’
Wrth ymweld â Chanolfan Arfordirol Rynglwadol newydd Cymru yn Llanusyllt, a fydd yn agor yn llawn yn 2023, fe wnaeth Mark Drakeford annog pobol o bob man i ymweld â mannau newydd yng Nghymru’r haf hwn.
Wrth siarad ar yr harbwr, sydd wedi derbyn dros £5.7m gan Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth cyllid yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd y Prif Weinidog ei bod hi’n “braf iawn cael ymweld â lle mor hardd â Llanusyllt a gweld Canolfan Arfordirol Ryngwladol newydd Cymru, sy’n ganolfan drawiadol iawn”.
“Mae Cymru yn wlad sy’n cynnig cyfle i fwynhau anturiaethau o’r radd flaenaf, gan gynnwys y beicio mynydd gorau ym Mhrydain, y llyn syrffio mewndirol cyntaf yn y byd, tirweddau naturiol eithriadol, a diwylliant creadigol,” meddai.
“Yn ogystal â hyn, wrth inni ddathlu deng mlynedd o lwyddiant menter flaenllaw sefydlu Llwybr Arfordir Cymru, mae’n wych gweld y datblygiadau cyffrous sy’n digwydd yn Llanusyllt.
“Dw i’n annog pobol o bob man yng Nghymru a thu hwnt i fentro i ymweld â mannau newydd yng Nghymru yn ystod yr haf.”