Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymateb i ymddiswyddiad Boris Johnson o fod yn arweinydd y Blaid Geidwadol.
Mae disgwyl y cyhoeddiad hwnnw yn ddiweddarach heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 7).
Er gwaetha’r ymddiswyddiad, bydd yn parhau i fod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig tan yr hydref, pan fydd ei olynydd yn cael ei ethol.
“Dywedais erioed ei bod hi’n hanfodol fod gan y Prif Weinidog hyder ein gwlad, y blaid a’r senedd,” meddai Andrew RT Davies.
“Yn amlwg, dydy hynny ddim bellach yn wir.
“Gwaddol Boris Johnson am byth fydd iddo ddod â’r sefyllfa ddiddatrys i ben a chwblhau Brexit, gan weithredu ar ewyllys y bobol Brydeinig.
“Yn ogystal â sicrhau buddugoliaeth hanesyddol yn 2019, sicrhaodd Boris ein bod yn dychwelyd i ryddid allan o’r pandemig Covid-19.
“Rwy’n ofni y daeth hi’n anodd iawn iddo weihredu ar sail y mandad y gwnaeth ei sicrhau.
“Fel ffrind a chefnogwr y Prif Weinidog, rwy’n cydnabod ei gyflawniadau dros y tair blynedd diwethaf.
“Cyfrifoldeb y Blaid Geidwadol nawr yw ethol arweinydd newydd i weithredu ar ein hymrwymiadau maniffesto am weddill y senedd hon.
“Rwy’n dymuno’n dda iddo fe, Carrie a gweddill y teulu am y dyfodol, ac yn diolch iddo am ei wasanaeth i’n gwlad.”
‘Fydd y cyhoedd yng Nghymru ddim yn maddau’
Yn y cyfamser, mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn dweud na fydd y cyhoedd yng Nghymru yn maddau i’r Ceidwadwyr er gwaetha’r ymddiswyddiad.
“O’r diwedd, mae’r saga druenus a di-urddas hon wedi dod i ben,” meddai.
“Roedd hi bob amser yn gwbl glir fod Boris Johnson yn anaddas i fod yn Brif Weinidog a bod gan y rheiny sydd wedi ei gefnogi hyd y diwedd gyfrifoldeb am y llanast a’r dinistr y mae e a’i frand o boblyddiaeth wedi’i chael ar ein gwlad.
“Fydd y cyhoedd yng Nghymru ddim yn maddau i gynifer o Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymreig am gynnal Boris Johnson am gyhyd yn erbyn amryw o sgandalau, tra ar yr un pryd roedd teuluoedd cyffredin yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r argyfwng costau byw.
“Johnson neu beidio, i gynifer o gyn-etholwyr Ceidwadol mae’r blaid roedden nhw’n arfer ei hadnabod y tu hwnt i waredigaeth, a fydd hi ddim yn dod yn ôl.”