Mae arweinwyr Plaid Cymru’n mynnu y “bydd unrhyw Brif Weinidog newydd yn trin Cymru â’r un dirmyg” â Boris Johnson, gan annog ei olynydd i “addo parchu datganoli”.

Daw sylwadau Adam Price a Liz Saville Roberts mewn datganiad ar y cyd, yn dilyn y newyddion fod Boris Johnson am ymddiswyddo o fod yn arweinydd y Blaid Geidwadol a’i fod e am barhau’n brif weinidog tan yr hydref.

Mae gweinidogion ac ysgrifenyddion seneddol preifat rhif y gwlith wedi ymddiswyddo dros y dyddiau diwethaf, ac roedd Boris Johnson wedi bod dan bwysau i gamu o’r neilltu.

“O’r diwedd, mae Prif Weinidog ymrafaelgar wedi syrthio ar ei fai,” meddai’r datganiad.

“Mae’r cylchfeistr, â’i fintai o glowniaid, wedi gwneud siambls o syrcas o ddemocratiaeth y Deyrnas Unedig.

“Peidiwch â chael eich twyllo, bydd ei olynydd yn trin yr etholwyr â’r un dirmyg.

“Mae Cymru’n haeddu cymaint gwell, ac mae gennym ddyletswydd i’w fynnu.”

‘Mae Prydain yn wladwriaeth ffaeledig’

Wrth i’r datganiad fynd yn ei flaen, dywed Adam Price a Liz Saville Roberts fod “Prydain yn wladwriaeth ffaeledig”.

“Mae’r Prif Weinidog sy’n gadael wedi achosi dinistr digynsail i’n setliad datganoli,” medden nhw.

“Mae grymoedd wedi cael eu tynnu’n ôl, deddfwriaeth wedi’i dileu’n unochrol, a chonfensiynau wedi’u hanwybyddu’n ddiddiwedd.

“Mae gan ymgeiswyr Torïaidd y cyfle i’n profi ni’n anghywir.

“Gallen nhw addo ailfeddwl yn sylfaenol am y ffordd mae San Steffan yn ymgysylltu â datganoli yng Nghymru.

“Gallen nhw addo parchu ein sefydliadau a’n ceisiadau am ragor o bwerau datganoledig.

“O ystyried eu record, rydym eisoes yn gwybod na fyddan nhw’n gwneud hynny.

“Wrth i basiant harddwch Torïaidd ddechrau rhwng pobol obeithiol, ddespret, rhaid i ni yng Nghymru gofio nad ydyn ni erioed wedi ethol mwyafrif o Aelodau Seneddol Ceidwadol.

“Rhaid i ni ymdrechu eto o’r newydd i gryfhau ein democratiaeth ein hunain, i’r gwrthwyneb llwyr i’r syrcas yma yn San Steffan.”