Mae Boris Johnson “wedi dinistrio ei enw da ei hun” ac “wedi gwneud llanast llwyr o’i blaid”, yn ôl Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon.
Mae disgwyl cyhoeddiad swyddogol y bydd y Prif Weinidog yn ymddiswyddo yn ddiweddarach heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 7).
Fodd bynnag, bydd yn parhau i fod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig tan yr hydref, pan fydd ei olynydd yn cael ei ethol.
Daeth yn amlwg fod cyfnod Boris Johnson yn Brif Weinidog wedi dod i ben fore heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 7) pan ddaru’r Canghellor newydd Nadhim Zahawi, a gafodd ei benodi i’r rôl nos Fawrth (Gorffennaf 5), alw arno i ymddiswyddo.
“Nid yw hyn yn gynaliadwy ac ni fydd ond yn gwaethygu: i chi, i’r Blaid Geidwadol ac yn bwysicaf oll i’r wlad i gyd,” meddai wrth Boris Johnson.
“Mae’n rhaid i chi wneud y peth iawn a mynd nawr.”
Cyn hynny roedd mwy na 50 o aelodau o’r Llywodraeth wedi ymddiswyddo.
Yn y cyfamser, mae’r Twrnai Cyffredinol Suella Braverman yn dweud y bydd yn sefyll mewn unrhyw ras arweinyddiaeth.
‘Boris Johnson yn hanes’
“Mae o wedi dinistrio ei enw da ei hun i’r raddfa oedd ganddo fo enw da,” meddai Hywel Williams wrth golwg360.
“Ac mae o wedi taflu’r mwyafrif o 80 oedd ganddyn nhw ar ôl yr etholiad i ffwrdd.
“Ar ben hynny, mae o wedi gwneud llanast llwyr o’i blaid ei hun.
“Ond yn hynny o beth, mae jyst wedi gweithredu yn unol â’i arferion.
“Achosi chaos, dyna mae o’n licio ei wneud.
“Mae o wedi gwneud niwed i unrhyw un sydd wedi dal swydd oddi dano fo, ond dw i bellach yn meddwl bod Boris Johnson yn hanes a dydy hi ddim bwys amdano fo mewn gwirionedd.”
‘Datganoli pwerau pellach’ neu annibyniaeth?
Hoffai Hywel Williams pe bai’r llywodraeth nesaf yn “peidio tanseilio’r Senedd Cymru” ac yn cytuno i “ddatganoli pwerau pellach”.
“Mae’n rhaid i ni edrych rŵan at gael llywodraeth sydd am weithredu’n gyfangwbl wahanol,” meddai.
“Yng Nghymru, mae’n rhaid iddyn nhw sticio i’r setliad datganoli a pheidio tanseilio Senedd Cymru fel maen nhw wedi bod yn ei wneud o dan Johnson.
“A dw i’n meddwl bod yn rhaid i ni weld nhw, yn y tymor byr, yn cytuno i gynnig datganoli pwerau pellach.
“Yn dilyn y siambls yma, mae angen i’r setliad rhwng Cymru a Lloegr gael ei ddiwygio yn y tymor byr, ac wedyn fe gawn ni setliad tymor hir.
“I mi, annibyniaeth ydi hynny.”
Etholiad cyffredinol?
Fodd bynnag, dydy Hywel Williams ddim yn sicr a fydd angen etholiad cyffredinol er mwyn cael llywodraeth yn San Steffan fydd yn agored i ddiwygio’r setliad rhwng Cymru a Lloegr.
“Mae hynny fyny i ryw raddau iddyn nhw, ond os oes yna griw o’r hen lywodraeth yn dod yn eu holau, sydd bellach heb unrhyw fath o hygrededd, mi faswn i’n meddwl y byddan nhw eisiau mynd am etholiad cyffredinol yn weddol fuan,” meddai.
“Ond efallai y basa hynny yn yr hydref, neu hyd yn oed yn y gwanwyn.
“Mae o’n dibynnu pwy fyddan nhw’n cael fel prif weinidog dros dro.”