Robert Buckland fydd yn olynu Simon Hart yn swydd Ysgrifennydd Cymru.

Roedd Aelod Seneddol De Swindon yn Arglwydd Ganghellor ac yn Ysgrifennydd Cyfiawnder rhwng Gorffennaf 2019 a Medi 2021, ac yn Weinidog yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn 2019, a chyn hynny’n Gyfreithiwr Cyffredinol.

Yn enedigol o Lanelli, cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Durham, gan raddio yn y Gyfraith yn 1990 a’i alw i wasanaethu’r flwyddyn ganlynol gan fynd yn ei flaen i weithio yng Nghaerdydd, Llundain a Chanolbarth Lloegr.

Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol yn 2010.

Mae’n briod ers 1997 a chanddo fe a’i wraig Sian ddau o blant, Millicent a George, ac mae’r teulu’n byw yn Wroughton yn Wiltshire.

Ymhlith ei ddiddordebau y tu allan i wleidyddiaeth mae cerddoriaeth, gwin, hanes gwleidyddiaeth, rygbi a chriced.

Ei ymateb i Boris Johnson

Daw’r adroddiadau ynghylch ei benodiad rai oriau’n unig ar ôl iddo alw am ymddiswyddiad Boris Johnson ar Sky News.

Dywedodd wrth Kay Burley ei fod e’n barod i roi cyfle i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig o ran helynt y partïon yn ystod cyfyngiadau Covid-19 a “materion eraill lle, yn drist iawn, mae’n ymddangos bod y gwirionedd yn ymddangos yn wahanol i’r fersiwn wreiddiol o’r hyn ddigwyddodd”.

“Ond mae effaith gynyddol i hyn a dw i’n teimlo erioed y byddai’r eiliad olaf yn dod, a dw i’n ofni, o ran y twyllo a’r esgusodion rydyn ni wedi’u gweld dros y dyddiau diwethaf ynghylch ei gyn-Ddirprwy Brif Chwip (Chris Pincher), fe ddaeth yn gynyddol amlwg i fi fod cydweithwyr yn cael eu hanfon allan i ddweud pethau nad oedden nhw jyst ddim yn wir.

“Allwch chi ddim rhedeg llywodraeth ar y sail hwnnw.

“Mae pobol Prydain yn disgwyl uniondeb a gonestrwydd gan ein harweinwyr.

“Weithiau mae pethau’n mynd o’i le, a phan fydd pethau’n mynd o’i le, mae angen i chi allu egluro hynny, bod yn wrol a’i egluro.

“Fe welais i absenoldeb hynny yr wythnos hon, a gyda thristwch mawr dw i wedi dod i’r casgliad na all y Prif Weinidog hwn barhau.”

‘Byddwn i wedi dweud “Na”

“Heb fynd i fanylder y sgyrsiau, cysylltwyd â fi fore heddiw a gofynnwyd i fi a oeddwn i’n barod i wasanaethu,” meddai wrth Sky News yn dilyn ei benodiad.

“Dw i bellach yn barod i wasanaethu.

“Dw i’n meddwl, pe bai [Boris Johnson] wedi gofyn i fi ddoe, y byddwn i wedi dweud ‘Na’.

“Ond wrth gwrs, y gwahaniaeth yw fod y Prif Weinidog hwn wedi cyflwyno’i ymddiswyddiad o fod yn arweinydd y Blaid Geidwadol.

“Ond mae’n rhaid i fusnes y Llywodraeth barhau, a dyna pam fy mod i wedi penderfynu dod yn ôl i mewn, i helpu fy ngwlad.

“Mae’r mater wedi cael ei ddatrys, mae’r Prif Weinidog bellach wedi gwneud ei gyhoeddiad, ac mae’r Llywodraeth yn parhau.

“Mae’r wlad hon yn wynebu heriau enfawr.

“Mae gennym ni bwysau byd-eang, mae gennym ni ryfel yn Ewrop, mae gennym ni chwyddiant, mae pethau i’w gwneud.

“Ac mae’r holl fentrau mae’r Llywodraeth wedi bod yn gweithio arnyn nhw ers ein buddugoliaeth etholiadol yn 2019 – codi’r gwastad a’r holl gyfleoedd ar gyfer pobol Cymru dw i bellach yn falch o gael helpu i’w cynrychioli.

“Dyna pam dw i’n meddwl fod pobol fel fi, Greg Clark a chyn-weinidogion eraill wedi penderfynu dychwelyd i wasanaethu ein gwlad.”

Boris Johnson “wedi dinistrio ei enw da ei hun” ac “wedi gwneud llanast llwyr o’i blaid”

Huw Bebb

“Dw i bellach yn meddwl bod Boris Johnson yn hanes a dydy hi ddim bwys amdano fo mewn gwirionedd”