Dim ond “er mwyn achub eu gyrfaoedd” ac nid oherwydd eu moesau mae Aelodau Seneddol Ceidwadol yng Nghymru wedi ymddiswyddo o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ôl Jane Dodds.

Daw sylwadau arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn dilyn ymddiswyddiad Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, a nifer o aelodau seneddol eraill o Gymru o’r Cabinet ac o swyddi eraill o fewn y llywodraeth.

Ymhlith y rhai eraill sydd wedi mynd dros y 24 awr diwethaf mae Fay Jones, Craig Williams a James Davies, oedd i gyd yn Ysgrifenyddion Seneddol Preifat.

“Mae hyn ymhell o fod y tro cyntaf mae gonestrwydd Boris Johnson wedi cael ei gwestiynu, ond dim ond nawr mae’n ymddangos eu bod nhw wedi canfod eu llais honedig ac asgwrn cefn.

“Y ffaith o hyd yw fod Simon Hart a’r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Cymreig wedi cefnogi Boris Johnson a’r Llywodraeth hon drwy gydol ei holl sgandalau, embaras ac anallu, a phenderfynu peidio gwneud pan ddaeth hi’n glir y byddai’n effeithio ar eu gyrfaoedd o fewn y Blaid Geidwadol.

“Mae pleidleiswyr yn gwybod eu bod nhw wedi chwarae eu rhan drwy droi llygad ddall i’r cyfan aeth o’i le dros dair blynedd ddiwethaf arweinyddiaeth Johnson.”