Mae cydweithwyr Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu’r Gogledd, yn dweud ei fod yn weithredwr “arloesol” dros bobol fregus a diamddiffyn.

Fe fydd yn ymddeol ar ôl yr etholiad ddydd Iau.

“Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, mae Arfon wedi ceisio deall ac addysgu pobol ynghylch achosion troseddau,” meddai Martin Blakebrough, prif weithredwr Prosiect Kaleidoscope, elusen sy’n helpu defnyddwyr cyffuriau.

Cafodd ei ethol i’r swydd yn 2016 ar ôl ymgyrchu dros ddiwygio cyfraith cyffuriau, a chael mwy o gamau i fynd i’r afael â thrais yn y cartref.

“Byddaf yn colli arweiniad ac ymroddiad diwyro Arfon, ac yn dymuno’r gorau iddo yn y dyfodol,” meddai Gaynor Mckeown, prif weithredwr Uned Diogelwch Cam-drin Domestig Gogledd Cymru.

“Gwirioneddol arloesol”

Mae Arfon Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, yn falch ei fod wedi helpu i newid barn y cyhoedd ar ddiwygio deddfwriaethau cyffuriau, yn ogystal â lansio mentrau ar y mater.

Cyflwynodd gynllun Checkpoint Cymru er mwyn arwain troseddwyr lefel isel i ffwrdd o droseddu, ac ar ei anogaeth, cafodd cynllun peilot i ddefnyddio chwistrell achub bywyd, sy’n gweithredu fel gwrthwenwyn i orddos cyffuriau, ei gynnal.

Arweiniodd hynny at achub dau fywyd yn ystod y cynllun peilot ac erbyn hyn, mae’r cynllun yn cael ei gyflwyno ledled y Gogledd.

“Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, mae Arfon wedi ceisio deall ac addysgu pobl ynghylch achosion troseddu,” meddai Martin Blakebrough, prif weithredwr Prosiect Kaleidoscope.

“Mae defnyddio cyffuriau yn un pwnc o’r fath ar draws heddluoedd y Deyrnas Unedig.

“Mae’r dull o weithredu sy’n gweld defnyddwyr cyffuriau fel dioddefwyr a chyflawnwyr trosedd wedi bod yn wirioneddol arloesol.

“Wrth gydnabod defnyddwyr cyffuriau fel dioddefwyr – yn aml dioddefwyr Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod er enghraifft – mae wedi cyflwyno’r cysyniad, lle’r oedd hynny’n bosibl, i gefnogi pobol er mwyn cymell newid.

“Mae menter Checkpoint yn dyst i’r dull newydd hwn o weithio, lle mae troseddau’n cael eu cydnabod, ond lle mae pobol yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud newidiadau.

“Felly yn hytrach na dim ond cosbi defnyddiwr cyffuriau trwy ddirwyo a charcharu, ar gost ariannol enfawr i’r trethdalwr, cynigir cefnogaeth ar yr ystod o faterion y mae defnyddwyr cyffuriau yn eu cynnig.

“Bydd gwaddol dull o’r fath yn gweld ailsefydlu troseddwyr a bydd yn dod â newid parhaol i’r defnyddiwr cyffuriau, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.

“Mae’r dull hwn bellach yn cael ei fabwysiadu gan heddluoedd eraill ac mae creu etifeddiaeth o’r fath yn dysteb aruthrol i Arfon.”

Ymrwymiad “rhyfeddol”

Ar ddechrau ei dymor fel Comisiynydd, cyhoeddodd Arfon Jones y byddai Heddlu Gogledd Cymru yn derbyn cyllid i ddarparu camerâu corff, sy’n ddefnyddiol i ddilyn digwyddiadau o gamdrin domestig, i bob swyddog rheng flaen.

“Rwyf wedi cael y pleser o weithio gydag Arfon a’i dîm am y tair blynedd diwethaf,” meddai Gaynor Mckeown, prif weithredwr Uned Diogelwch Camdrin Domestig Gogledd Cymru.

“Mae ei ymrwymiad a’i awydd i fynd i’r afael â cham-drin domestig a’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan gamdriniaeth o’r fath wedi bod yn rhyfeddol.

“Mae wedi annog, cefnogi a herio’r arbenigwyr hynny sy’n gweithio ym maes cam-drin domestig ledled gogledd Cymru i sicrhau ein bod yn darparu’r gefnogaeth orau bosibl i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

“Byddaf yn colli arweiniad ac ymroddiad diwyro Arfon ac yn dymuno’r gorau iddo yn y dyfodol.”

“Nifer o gerrig milltir”

Yn ystod ei gyfnod fel Comisiynydd, fe wnaeth Arfon Jones hefyd fuddsoddi arian ac adnoddau i fynd i’r afael â throseddau ar-lein, megis twyll, a phenodi Carl Foulkes yn Brif Gwnstabl yn y gogledd.

“Ar ran fy hun a’r heddlu, rwyf am ddymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol wrth iddo gamu i lawr fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd,” meddai Carl Foulkes.

“Bu nifer o gerrig milltir ar hyd y daith a hoffwn ddiolch iddo am ei gefnogaeth.”

“Balchder mawr”

“Mae wedi bod yn fraint aruthrol cael bod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a byddaf yn edrych yn ôl ar fy nhymor yn y swydd gyda balchder mawr,” meddai Arfon Jones wrth baratoi i gamu o’r swydd.

“Hoffwn ddiolch a thalu teyrnged i’r tîm gwych yn fy swyddfa, dan arweiniad y prif weithredwr Stephen Hughes, sydd wedi darparu cefnogaeth fendigedig a chyngor doeth.

“Hoffwn hefyd ddiolch a mynegi fy edmygedd o swyddogion a staff gwych Heddlu Gogledd Cymru am eu hymrwymiad i sicrhau bod gogledd Cymru yn parhau i fod y lle gorau a mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddo.

“Gall fod yn swydd beryglus ar brydiau, yn enwedig mewn cyfnod fel y flwyddyn ddiwethaf pan fu’n rhaid i’r heddlu ymdopi â’r heriau digynsail a gododd yn sgil y pandemig, gan gynnwys, yn anghredadwy, pobl yn pesychu ac yn poeri arnyn nhw,” ychwanegodd.

“Yn olaf, hoffwn ddymuno’r gorau yn fy swydd i’m holynydd. Mi fyddan nhw’n etifeddu gwasanaeth heddlu rhagorol gydag arweinyddiaeth o’r radd flaenaf.”

Gyda thymor Arfon Jones yn Gomisiynydd ar fin dod i ben, gallwch ddarllen cyfweliad gyda dau o’r ymgeiswyr i’w olynu yn yr etholiad ar Fai 6 yma.