Fe fydd enwau mamau a thadau’r briodferch a’r priodfab yn ymddangos ar dystysgrifau priodas wrth i’r Swyddfa Gartref gyflwyno cyfres o newidiadau o heddiw (dydd Mawrth, Mai 4).
Bydd system electronig newydd yn dod i rym heddiw er mwyn cyflymu a moderneiddio’r broses, gan helpu i fynd i’r afael â rhestr hir o bobol sy’n aros i briodi.
Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i’r pâr sy’n priodi lofnodi llyfr cofrestru mewn swyddfa gofrestru, eglwys neu gapel ac unrhyw leoliadau eraill sydd wedi’u cofrestru i gynnal seremonïau.
Ond yn ôl y Swyddfa Gartref, byddai un gofrestr electronig ganolog yn arbed cryn dipyn o amser ac arian, ac yn ffordd fwy diogel o gadw manylion gan ddileu’r angen am gopïau caled sy’n cynnwys manylion personol.
‘Cywiro anomaledd hanesyddol’
Yn ôl y Swyddfa Gartref, bydd y gofrestr newydd yn “cywiro anomaledd hanesyddol”, gan mai dim ond enwau’r tadau sydd wedi’u cynnwys ar dystysgrifau priodas tan nawr.
Maen nhw’n dweud mai dyma’r newid mwyaf ers i’r Ddeddf Briodas ddod i rym yn 1837, ac mae’r newidiadau wedi’u cyflwyno yn dilyn ymgynghoriad â nifer o sefydliadau gan gynnwys Eglwys Loegr.
Gall priodasau gael eu cynnal ar hyn o bryd er gwaethaf cyfyngiadau Covid-19, ond mae’n rhaid dilyn canllawiau’r llywodraeth briodol yng Nghymru neu Loegr ar nifer y bobol sy’n cael bod yn bresennol.