Gallai gwyliau tramor i wledydd fel Ffrainc a’r Eidal gael eu caniatáu dros yr haf pe bai achosion Covid-19 yn y gwledydd hynny yn gostwng i’r un lefelau â’r Deyrnas Unedig, yn ôl un uwch-gynghorydd gwyddonol.
Dywed yr Athro Neil Ferguson, sy’n creu modelau ar gyfer cynghori gwyddonwyr Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fod y peryglon mewn gwledydd lle mae cyfradd achosion Covid-19 yn uwch na’r rhai yng ngwledydd Prydain.
Daw hyn wedi i’r Comisiwn Ewropeaidd ddweud y byddan nhw’n llacio cyfyngiadau ar deithio i’r Undeb Ewropeaidd yn sgil yr ymgyrch frechu a chyfraddau achosion is.
Mae’r Undeb Ewropeaidd yn cynllunio i “ganiatáu mynediad i’r Undeb Ewropeaidd am resymau nad ydyn nhw’n hanfodol, i bobol sy’n dod o wledydd sydd mewn sefyllfa epidemiolegol dda, yn ogystal â phawb sydd wedi derbyn dos olaf brechlynnau sydd wedi’u cymeradwyo gan yr Undeb Ewropeaidd”.
“Teimlo’n weddol obeithiol”
Mae disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi rhestr o’r gwledydd y gall pobol deithio iddyn nhw heb orfod hunanynysu am bythefnos wrth ddychwelyd, yn fuan.
“Dw i’n meddwl, os bydd cyfraddau achosion yn Ffrainc a’r Eidal, er enghraifft, ar yr un lefel â fan hyn erbyn yr haf, yna nid oes peryglon yn gysylltiedig â theithio dramor,” meddai’r Athro Neil Ferguson wrth Radio 4.
“Mae’r perygl yn dod wrth fynd o rywle fel y Deyrnas Unedig, sydd â chyfradd isel o achosion, i rywle gyda lefelau llawer uwch o achosion, ac felly mae perygl o ddod â’r haint yn ei ôl.
“Os yw’r ddau le ar lefel debyg, a dyna mae’r Undeb Ewropeaidd yn ei ddweud, nid oes unrhyw berygl arbennig wrth deithio.”
Dywed mai’r perygl y gallai’r brechlynnau fod yn llai effeithiol yn erbyn amrywiolion yw’r “pryder mawr”, ac y gallai hynny arwain at “drydedd don fawr iawn yn ystod yr hydref” yn y Deyrnas Unedig.
Felly, mae’n “hanfodol cynnig dos atgyfnerthu, a allai ein hamddiffyn rhag hynny, cyn gynted ag y byddwn ni wedi gorffen brechu’r holl oedolion, a ddylai ddigwydd erbyn yr haf”.
Ychwanega ei fod yn “teimlo’n weddol obeithiol y byddwn ni’n dychwelyd ar rywbeth sy’n teimlo’n lot mwy normal erbyn yr haf, er na fyddwn ni’n ôl at normalrwydd llwyr”.
“Rydyn ni’n disgwyl i ledaeniad, a derbyniadau ysbytai a marwolaethau i ryw raddau, gynyddu erbyn diwedd yr haf petaem ni’n dychwelyd at normalrwydd, ond ar lefel llawer is na’r hyn welsom ni yn ôl ym mis Rhagfyr ac Ionawr er enghraifft,” meddai.
“Felly, mae’n fater o ddefnyddio beirniadaeth wleidyddol i benderfynu beth sy’n dderbyniol o ran niferoedd achosion, ond dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei lethu, er enghraifft – oni bai bod problem gydag amrywiolion.
Dywedodd y byddai’n rhaid cael “cyfradd llawer uwch o achosion mewn cymdeithas er mwyn peryglu’r Gwasanaeth Iechyd, ac rydyn ni’n meddwl bod hynny’n annhebygol o ddigwydd oni bai bod amrywiolyn yn ymddangos sy’n ailosod y berthynas yna eto”.
Pwysleisia fod ganddo fo a’i dîm bryderon ynghylch diwedd yr haf a dechrau’r hydref, ond eu bod nhw’n “lleihau”, yn arbennig yn sgil data sy’n dangos effaith y brechlynnau ar ymlediad y feirws.
Annog pobol i aros nes y bydd cyhoeddiad
Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annog pobol i aros nes y bydd cyhoeddiad gan dasglu teithio’r Deyrnas Unedig cyn gwneud cynlluniau.
“Byddwn i’n annog pobol i aros nes ein bod ni’n gwneud y cyhoeddiad fel bod posib i ni weld yr union fanylion, yn seiliedig ar y data, oherwydd dydyn ni ddim eisiau ailfewnforio’r feirws ar ôl gwneud gwaith mor arbennig yn gostwng y gyfradd yn y Deyrnas Unedig… mae’n rhaid i ni fod yn ofalus,” meddai Liz Truss wrth Sky News.
Daw hyn wrth i arolwg ganfod mai dim ond 13% o bobol Prydain fyddai’n fodlon teithio dramor eleni, gyda dau draean o’r boblogaeth yn bwriadu mynd ar wyliau o fewn y Deyrnas Unedig.
Yn ôl yr ymchwil ar ran GoCompare, dywedodd 31% eu bod nhw’n poeni am deithio dramor oherwydd y feirws, a nododd 30% eu bod nhw’n poeni am orfod hunanynysu wrth ddychwelyd.
Roedd un ym mhob deg am fynd ar wyliau o fewn y Deyrnas Unedig gan nad ydyn nhw’n gallu fforddio mynd dramor eleni, ac 16% am aros yn y Deyrnas Unedig oherwydd bod yn well ganddyn nhw wneud hynny na mynd dros y môr.