Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i unrhyw un dros 30 oed sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro gysylltu â’r bwrdd iechyd os nad ydyn nhw wedi derbyn apwyntiad am ddos cyntaf o frechlyn Covid-19.

Dywed y Bwrdd Iechyd y dylai unrhyw un rhwng 30 a 49 oed sydd heb dderbyn apwyntiad gysylltu â’r bwrdd iechyd cyn gynted â phosibl.

Y ffordd symlaf o ofyn am apwyntiad yw llenwi ffurflen ar-lein ar wefan y bwrdd iechyd https://biphdd.gig.cymru/.

Mae modd canslo neu aildrefnu apwyntiad cyfredol drwy ffonio’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322.

“Ein polisi yw gadael neb ar ôl felly nid yw’n rhy hwyr i ofyn am frechiad cyntaf os ydych chi mewn grwpiau blaenoriaeth 1 i 9 neu rhwng 30 a 49 oed,” meddai Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn drefnu apwyntiad i chi yn eich canolfan brechu torfol agosaf. ”

Mae cymorth cludiant ar gael i bobol sy’n methu â mynychu apwyntiad brechu, drwy ffonio’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322.

Ond mae’r Bwrdd Iechyd yn rhybuddio bod yn rhaid i bobol barhau i weithredu i atal lledaeniad y coronafeirws yn y gymuned a pharhau i ddilyn canllawiau COVID-19 ar ôl cael eu brechu.

Y symptomau mwyaf sylfaenol yw:

  • peswch parhaus newydd
  • tymheredd uchel
  • colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl

Mae rhai pobol yn cael dolur gwddf, cur pen, tagfeydd trwynol, dolur rhydd, cyfog a chwydu hefyd.