Mae ymchwil newydd gan TUC Cymru yn dangos bod cael mwy o bwerau datganoli i Gymru ymhlith blaenoriaethau gweithwyr wrth edrych tuag at dymor nesaf y Senedd.
Fe wnaeth yr undeb gydweithio â YouGov rhwng Rhagfyr y llynedd ac Ebrill eleni er mwyn siarad â miloedd o weithwyr ledled Cymru i geisio eu barn ar eu byd gwaith, eu profiadau yn ystod y pandemig a’u blaenoriaethau ar gyfer dyfodol y wlad.
Cyn yr etholiad ddydd Iau (Mai 6), mae TUC Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n manylu ar bump o brif flaenoriaethau gweithwyr.
Yn ogystal â rhagor o bwerau datganoli, mae adferiad gwyrdd a theg, a gweithleoedd saffach ymysg y prif flaenoriaethau.
Cryfhau datganoli
Mae ymchwil TUC Cymru yn dangos bod gweithwyr Cymru yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gael mwy o bwerau ar gyfer creu polisïau mewn sawl maes.
Dywed 56% o weithwyr eu bod nhw’n cefnogi’r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn rheoli maes iechyd, a 60% eu bod nhw’n cefnogi’r pwerau datganoledig sydd gan Gymru ym maes addysg.
Yn ogystal, maen nhw’n credu y dylai’r penderfyniadau ynghylch ffurfio polisïau lles, yn ogystal â threthi, gael eu gwneud yng Nghymru.
Mae cefnogaeth gref i gael Llywodraeth Cymru yn rheoli polisïau yn ymwneud â datblygiad economaidd y wlad, gyda 53% yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru gael y pwerau i wneud hynny.
Dywed 30% y dylai San Steffan reoli datblygiad economaidd Cymru, a 17% nad ydyn nhw’n gwybod.
And finally, across a range of devolved and non-devolved issues, workers say they favour the Senedd and not Westminster making the decisions. (6/7) pic.twitter.com/OGk95Ya4sM
— Wales TUC Cymru (@walestuc) May 4, 2021
Codi cyflogau a gwell cyllid
Ymysg materion pwysig eraill i weithwyr Cymru mae sicrhau gwell cyllid i’r sector gyhoeddus a chodi cyflog gweithwyr y sector.
Dywed 62% o’r gweithwyr a gafodd eu holi fod gwariant ar ofal cymdeithasol wedi bod yn is na’r angen dros y blynyddoedd diwethaf, gyda 13% yn unig yn dweud bod y gwariant yn briodol neu’n ormod.
Mae ymchwil TUC Cymru yn dangos bod yna gefnogaeth gref i godi cyflogau ar draws y sector, ond yn enwedig ar gyfer nyrsys, gofalwyr, porthorion mewn ysbytai a glanhawyr.
Tegwch a llais cryfach
Un o’r blaenoriaethau eraill yw sicrhau tegwch yn y byd gwaith a chael llais cryfach i weithwyr ar y penderfyniadau sy’n eu heffeithio nhw.
Daw’r arolwg i’r casgliad bod cefnogaeth gref i wahardd cytundebau oriau sero, ac mae’n dangos bod gweithwyr yn credu y dylai’r llywodraeth weithio ar y cyd â chyflogwyr ac undebau llafur er mwyn datblygu a chyflwyno polisïau.
Yn ogystal, mae’r ymchwil yn dangos bod cyfran sylweddol o weithwyr Cymru’n rhwystredig ynghylch y ffordd maen nhw’n cael eu trin yn y gwaith.
Dywed 29% nad ydyn nhw’n cael eu talu’n deg, 21% nad yw eu rheolwyr yn gwrando ar eu barn, a 28% nad yw eu cyflogwyr yn cynnig cyfleoedd da er mwyn gallu datblygu.
Ynghyd â hynny, dywed 30% nad yw penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn y gweithle yn cael eu hegluro iddyn nhw.
Daw’r ymchwil i’r canlyniad hefyd fod 36% o weithwyr yn methu cael mynediad hawdd at hyfforddiant ar gyfer symud ymlaen yn eu gyrfa, gyda’r ganran yn codi i 46% ymysg gweithwyr sydd â lefelau is o gymwysterau addysg ffurfiol.
Adferiad gwyrdd a theg
Mae cael adferiad teg a gwyrdd ymysg blaenoriaethau’r gweithwyr hefyd, gan greu swyddi drwy fuddsoddiad cyhoeddus mewn isadeiledd gwyrdd gan gynnwys trafnidiaeth drydanol, cartrefi gwyrddach, a chysylltiad cyflymach i’r we.
Meysydd eraill lle mae gweithwyr am weld adferiad yw “cyflwyno rhaglenni sgiliau ac ailhyfforddi ar gyfer gweithwyr sydd mewn perygl o gael eu gwneud yn ddi-waith”, a thrwy “fuddsoddiad cyhoeddus i’r diwydiannau sydd wedi dioddef waethaf oherwydd y pandemig, er enghraifft hedfan, aerofod, a lletygarwch.”
Mae yna gefnogaeth gref ymysg gweithwyr i weithredu’n fwy radical er mwyn helpu tenantiaid yn y sector rhentu preifat hefyd, gyda 66% yn credu y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig osod uchafswm ar rent neu rewi costau.
Gweithleoedd mwy diogel
Mae canfyddiadau TUC hefyd yn dangos bod gweithwyr eisiau gweithleoedd mwy diogel, gyda 16% o weithwyr yn dweud nad ydyn nhw’n teimlo’n gyfforddus yn lleisio pryderon ynghylch peryglon Covid-19 yn y gweithle.
Mae’r broblem ar ei gwaethaf ymysg pobol ifanc 16 i 24 oed, gweithwyr sydd â lefelau is o gymwysterau addysg, gweithwyr rhan amser a gweithwyr o gartrefi sydd ag incwm blynyddol o lai nag £20,000.
Daw hyn wrth i weithwyr y DVLA yn Abertawe ddechrau ar streic o’r newydd heddiw (dydd Mawrth, Mai 4), yn sgil ffrae ynghylch diogelwch ac amodau gwaith yn y ganolfan.
Mae trafodaethau ar y gweill ers tro ond yn ôl yr undeb, mae rheolwyr yn dal i fynnu bod rhaid i 2,000 o aelodau o staff fynd i’r swyddfa bob dydd.