Bangor yw’r ddinas gyntaf yng Nghymru i sicrhau statws Cymuned Ddi-blastig gan yr elusen cadwraeth forol Surfers Against Sewage (SAS).

Mae’n ymuno â rhwydwaith o gymunedau ledled y Deyrnas Unedig sy’n arwain y ffordd i fynd i’r afael â llygredd plastig.

Mae’r wobr wedi’i rhoi i gydnabod y gwaith o ddechrau lleihau effaith plastig untro ar yr amgylchedd.

Harry Riley, cyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, ddechreuodd yr ymgyrch wrth astudio am radd mewn Bioleg yn y ddinas.

Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid eraill, gan gynnwys Cyngor Gwynedd, Cyngor Dinas Bangor, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau, cynhaliodd Harry a’r grŵp nifer o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd gan gynnwys casglu sbwriel a glanhau traethau.

“Mae Bangor wastad wedi bod ar flaen y gad ym maes ymchwil plastig ac fel myfyriwr, roedd yn anrhydedd cwrdd a gweithio gyda Dr Christian Dunn,” meddai.

“Fel academydd blaenllaw yn ymchwilio i effaith microplastigau ar draws y byd, ac yn un o sylfaenwyr Canolfan Ymchwil Blastig Cymru, cefais fy ysbrydoli gan ei waith i wneud gwahaniaeth i’r ddinas roeddwn i wedi dod i’w charu.

“Daeth Dr Dunn yn rhan o’r grŵp ochr yn ochr â Chynghorwyr lleol ac yna Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Mark Barrow.”

“Ffordd hir i fynd eto”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Faterion Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac sy’n cynrychioli Bangor Uchaf ar Gyngor Gwynedd ei bod hi “fel aelod lleol sy’n cynrychioli Bangor, yn ymwybodol bod materion gwastraff yn bryder enfawr i drigolion”.

“Mae ffordd hir i fynd eto, ond mae’r cam cyntaf pwysig hwn yn dangos y gefnogaeth sydd i’r sgwrs hon ym Mangor,” meddai.

“Dylai siopau Statws Di-blastig ac ailddefnyddio, gobeithio, gyfrannu at newid y naratif o gwmpas gwastraff ym Mangor, gan gyfrannu at ddinas lannach, wyrddach yn y dyfodol.”

“Cam tuag at fynd i’r afael â’r broblem”

Ychwanegodd Rachel Yates, Swyddog Prosiect Cymunedau Di-blastig SAS ei bod yn “wych gweld y gwaith y mae Bangor wedi’i wneud i leihau argaeledd plastigau y gellir eu hosgoi, codi ymwybyddiaeth ac annog pobl i ail-lenwi ac ailddefnyddio”.

“Mae gennym dros chwe chant o gymunedau ledled y Deyrnas Unedig yn gweithio i leihau plastig untro a’r effaith y mae’n ei gael ar ein hamgylchedd,” meddai.

“Mae pob cam y mae’r cymunedau a’r unigolion hynny yn ei gymryd yn gam tuag at fynd i’r afael â’r broblem, herio ein diwylliant taflyd i ffwrdd ac annog yr arfer a’r newidiadau i’r system y mae angen i ni eu gweld.”