Mae cyfreithwyr yn herio penderfyniad yr Undeb Ewropeaidd i gael gwared ar hawl Aelod o’r Senedd Ewropeaidd (ASE) i imiwnedd rhag cael ei herlyn.
Mae Clara Ponsati yn wynebu cyhuddiad o annog gwrthryfel am ei rôl yn refferendwm annibyniaeth Catalwnia yn 2017, a gallai gael ei hestraddodi i Sbaen.
Daeth Clara Ponsati, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol St Andrews yn yr Alban, yn Aelod o Senedd Ewrop ym mis Ionawr 2019, ar ôl i Sbaen gael pum sedd ychwanegol pan wnaeth y Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
Rhoddodd hyn warchodaeth iddi hi rhag cael ei herlyn, ac i gyn-Arlywydd a chyn-weinidog iechyd Catalwnia, a ddaeth yn ASEau hefyd.
Gallai Clara Ponsati gael ei dedfrydu i bymtheg mlynedd yn y carchar, wedi i naw o swyddogion eraill Catalwnia dderbyn dedfrydau o rhwng naw a 13 o flynyddoedd dan glo am yr un drosedd yn ystod hydref 2019.
“Y broses wedi dechrau”
Fe wnaeth Senedd Ewrop bleidleisio i gael gwared ar ei himiwnedd hi – a’r ddau arall – fel ASE ar Fawrth 9, ond clywodd Llys Uchel Siryf Caeredin heddiw (dydd Mawrth, Mai 4) ei bod hi’n bwriadu herio’r penderfyniad.
Dywedodd ei chyfreithwraig, Claire Mitchell, wrth y llys fod y “broses wedi dechrau”.
“Dylid cyflwyno gweithred i ddirymu penderfyniad y Senedd Ewropeaidd i godi imiwnedd yr ASEau erbyn Mai 19. Yn anffodus, ni ydyn ni’n sicr pa mor hir fydd y broses,” meddai.
Dywed hefyd fod y mater wedi cael ei gyfeirio at Lys Cyfiawnder Ewrop.
“Er gwaethaf unrhyw benderfyniad a allai gael ei wneud yn y dyfodol, bydd angen gwrandawiad ar gyfer yr achos hwn,” meddai. “Dylai’r mater yma gael ei ddadlau mewn llys.”
Dywedodd yr Uchel Siryf Nigel Ross “nad oes yna rwystrau cyfreithiol i atal y gweithredoedd llys hyn” ar hyn o bryd.
Fe wnaeth Clara Ponsati ymddangos drwy gyswllt fideo o Wlad Belg, a gofynnodd yr Uchel Siryf beth yw diben estraddodi rhywun o’r tu allan i’r wlad lle mae’r achos yn cael ei gynnal.
“Ar hyn o bryd, mae hi yng Ngwlad Belg, felly pam ydyn ni’n ceisio ei hestraddodi hi o’r Alban?”
Dywedodd John Scott, ar ran y Goron, fod cyfeiriad ei mechnïaeth yn yr Alban, a bod amodau ei mechnïaeth yn ei gorfodi i fynychu gwrandawiadau.
Gwrthododd yr Uchel Siryf gais i newid ei chyfeiriad mechnïaeth i Wlad Belg, a chafodd ei newid i swyddfa ei chyfreithwyr yn yr Alban yn lle hynny.
Mae gwrandawiad gweithdrefnol pellach wedi’i drefnu ar gyfer mis Awst.
Wrth siarad ar ôl y gwrandawiad, dywedodd Aamer Anwer, cyfreithiwr Clara Ponsati, eu bod nhw’n “dal i ddweud na ddylai’r llysoedd orfodi Clara Ponsati i ddychwelyd i Sbaen er mwyn wynebu erlyniad troseddol”.
“Mae system gyfiawnder Sbaen wedi dangos dros y tair blynedd ddiwethaf fod y siawns y caiff yr Athro Ponsati achos llys teg yn parhau i fod yn amhosib.”