Mae’r Deyrnas Unedig ac India wedi llofnodi cytundeb i ganiatáu i ddinasyddion ifanc fyw a gweithio yn y naill wlad a’r llall.

Yn ôl swyddogion, mae’r cytundeb yn mynd i’r afael â phroblemau gyda phobol yn mewnfudo yn “anghyfreithlon” i’r Deyrnas Unedig o India.

Bydd y cytundeb, a gafodd ei lofnodi gan yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel a Gweinidog Tramor India, Subrahmanyam Jaishankar, yn caniatáu i weithwyr rhwng 18 a 30 oed weithio a byw yn y wlad arall am gyfnod o hyd at 24 mis.

Dywedodd y Swyddfa Gartref y byddai’r rhaglen gyfnewid ddiwylliannol a phroffesiynol yn gweithio’n debyg i raglenni symudedd sy’n weithredol ar hyn o bryd, ac India fydd y wlad gyntaf i fanteisio ar y rhaglen.

“Bydd y cytundeb hanfodol yma gydag ein partneriaid agos yn Llywodraeth India yn cynnig cyfleoedd newydd i filoedd o bobol ifanc yn y Deyrnas Unedig ac India sydd am fyw, gweithio, a phrofi diwylliant ei gilydd,” meddai Priti Patel.

“Bydd y cytundeb hefyd yn sicrhau bod Llywodraeth Prydain yn gallu cael gwared ar y rheiny sydd heb yr hawl i fod yn y Deyrnas Unedig yn haws, ac yn gallu mynd i’r afael â rhai sy’n camddefnyddio’r system.”

“Cam anferth”

Mae Boris Johnson a Narendra Modi, Prif Weinidog India, wedi cytuno ar “Amserlen 2030”, sy’n gosod fframwaith ar gyfer cydweithio rhwng y ddwy wlad dros y degawd nesaf, yn ôl Downing Street.

Dywedodd swyddogion fod y ddogfen, sy’n cael ei disgrifio fel “cam anferth” yn y berthynas rhwng y ddwy wlad, yn canolbwyntio ar gydweithio ar iechyd, yr hinsawdd, masnach, addysg, gwyddoniaeth a thechnoleg, ac amddiffyn.

“Mae’r Deyrnas Unedig ac India yn rhannu nifer o werthoedd hanfodol,” meddai Boris Johnson.

“Y Deyrnas Unedig yw un o’r democratiaethau hynaf, ac India yw’r mwyaf yn y byd. Rydyn ni’n aelodau ymrwymedig o’r Gymanwlad. Mae yna bont fyw yn uno pobloedd ein gwledydd.

“Bydd y cysylltiad yma’n tyfu dros y degawd nesaf wrth i ni wneud mwy i fynd i’r afael â phroblemau mwyaf y byd, a gwneud bywyd yn well i’n pobol.

“Mae’r cytundeb rydyn ni wedi dod iddo heddiw yn nodi dechrau cyfnod newydd ym mherthynas y Deyrnas Unedig ac India.

“Mae’n ymwneud â helpu India gydag argyfwng Covid, ond hefyd â helpu India i ailadeiladu’n well ar ôl argyfwng Covid,” meddai Liz Truss, Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol y Deyrnas Unedig, wrth drafod y cytundeb masnach £1bn gydag India.

“Byddwn ni’n dechrau trafodaethau am gytundeb masnach rydd llawn dros yr hydref, wrth gwrs mae cytundebau masnach rydd yn cymryd yn hirach, beth yw hyn… yw’r buddiannau y gallwn ni eu cael ar unwaith i’r ddwy wlad wrth greu swyddi a thwf yma ym Mhrydain ac yn India.”