Mae John Hartson, cyn-gapten tîm pêl-droed Cymru, yn dweud ei fod e “wrth ei fodd” yn clywed arweinydd Llafur yr Alban yn galw am raglen i adfer gofal canser, ac mae’n dweud y dylai hynny fod yn flaenoriaeth ar ôl etholiad Holyrood.
Dywedodd cyn-chwaraewr Glasgow Celtic na fyddai wedi goroesi canser heb driniaeth frys, gan gynnwys dwy lawdriniaeth ar ei ymennydd a chemotherapi.
Yn ystod yr ymgyrch yng Nghaeredin, dywedodd John Hartson ei fod yn ofni ar ran cleifion canser sydd wedi gorfod disgwyl am driniaeth, neu sydd heb gael diagnosis oherwydd hyd y rhestrau aros o ganlyniad i’r pandemig.
Dywedodd nad ydi e erioed wedi bod ynghlwm â gwleidyddiaeth yn ffurfiol, ond ei fod “wrth ei fodd” â chynllun Llafur yr Alban i adfer a gwella gwasanaethau canser.
“Ni fydd canser yn stopio i neb”
“Dw i’n cefnogi’r cynllun adfer gofal canser, dw i erioed wedi bod ynghlwm â gwleidyddiaeth yn ffurfiol na dim byd fel yna,” meddai John Hartson, sydd wedi goroesi canser y ceilliau wnaeth ledaenu i’w ysgyfaint a’i ymennydd.
“Dim ots pwy ydych chi’n pleidleisio drostyn nhw, fydd canser ddim yn stopio i neb.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig blaenoriaethu hynny nawr achos, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae yna nifer ofnadwy o ddioddefwyr canser wedi dioddef a marw oherwydd dydyn nhw ddim wedi gallu cael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
“Fy marn i yw y dylai pwy bynnag sy’n dod i’r Senedd, pwy bynnag fyddan nhw, flaenoriaethu rhoi apwyntiadau i ddioddefwyr canser a chael llawdriniaethau.
“Yn fy marn bersonol i, fyddwn i ddim wedi goroesi heb gael y driniaeth roeddwn i wir ei hangen ar yr adeg arbennig honno.”
Mae John Hartson, sy’n 46 oed, yn cydnabod ei bod hi’n “iawn” fod y gwasanaeth iechyd wedi canolbwyntio ar Covid-19, ond ei bod hi’n amser nawr i flaenoriaethu triniaethau canser.
“Mae nifer o bobol wedi dioddef gyda’r pandemig, ac mae fy nghalon yn gwaedu dros bawb rydyn ni wedi’u colli yn ystod y pandemig, ond nawr mae’n ymddangos ein bod ni’n mynd i rywle gyda’r brechlynnau a phopeth arall,” meddai wedyn.
“Yn dod o safbwynt personol, dw i jyst eisiau i’r bobol druan hyn sydd â chanser dderbyn gofal, oherwydd mae yna bobol yn marw ar ein gwyliadwriaeth ni gan nad ydyn nhw’n derbyn y driniaeth gywir ar gyfer canser.”
“Stori bersonol anhygoel”
“Mae gan John stori bersonol anhygoel, ac nid oes angen i neb ddweud wrtho fe pa mor bwysig yw diagnosis cynnar, a pha mor bwysig yw mynd i’r afael â’r argyfwng canser,” meddai Anas Sarwar, arweinydd Llafur yr Alban ar ôl y cyfarfod.
“Wrth siarad â John, rydych chi’n deall pam – i bobol sydd wedi goroesi canser, pobol sy’n dioddef gyda chanser – eu bod nhw’n cydnabod fod rhaid i’r Senedd nesaf flaenoriaethu gwasanaethau canser a chlirio’r rhestr aros, yn hytrach na mynd yn ôl at hen ddadleuon a hen rwygiadau.”