Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Senedd Cymru yn dweud bod angen gwneud mwy i goffáu grwpiau sydd ddim yn cael eu cynrychioli ddigon.
Galwa’r Pwyllgor am gomisiynu cerfluniau a gwaith celf newydd yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â diffyg amrywiaeth ymhlith pobol sy’n cael eu coffau mewn mannau cyhoeddus.
Nid yw menywod, pobol anabl, pobol ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, na phobol LHDT+ yn cael digon o gynrychiolaeth ar hyn o bryd, yn ôl y Pwyllgor.
Mae’r Pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad i’r ffyrdd y mae cyfraniad pobol yn cael ei ddathlu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru.
Bu’r Pwyllgor yn archwilio sut mae pobol yn cael eu dewis ar gyfer cofebion, pa egwyddorion y gellir eu dilyn ar gyfer coffau, a’r broses y dylid ei dilyn os yw pobol eisiau cael gwared ar gofeb.
Mae’r Pwyllgor yn galw am greu cynllun coffáu cyhoeddus cenedlaethol newydd o’r enw ‘Plac y Ddraig’, ac am ‘sgwrs genedlaethol’ ar y casgliad cyntaf o blaciau.
Gobeithia’r Pwyllgor y byddai’r cynllun yn helpu i godi ymwybyddiaeth o hanes Cymru, a sut y mae’n berthnasol i Gymru heddiw a Chymru yfory.
Helpu cymunedau lleol i benderfynu pwy i’w coffáu
Fel rhan o’i ymchwiliad i bwy sy’n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus, clywodd y Pwyllgor safbwyntiau croes ar y ddadl ynghylch cael gwared ar gerfluniau.
Ar un ochr roedd rhai yn gwrthwynebu’r syniad o gael gwared ar gerfluniau yn llwyr, ac ar yr ochr arall roedd rhai yn cwestiynu diben a pherthnasedd cerfluniau yn y lle cyntaf.
Dros yr haf, daeth dadleuon ynghylch cael gwared ar gerfluniau sy’n coffau pobol â chysylltiadau â chaethwasiaeth i’r amlwg yn sgil protestiadau Black Lives Matter.
Fis Mehefin, cafodd cerflun o Edward Colston ei dynnu lawr gan brotestwyr a’i daflu i’r harbwr.
O ran penderfynu a ddylid cael gwared ar gerfluniau dadleuol, mae’r Pwyllgor o’r farn y dylai cymunedau lleol ystyried pob dewis yn llawn cyn penderfynu, fel ystyried a ddylid darparu mwy o wybodaeth a chyd-destun gyda’r cerflun.
Mae’r adroddiad yn argymell fod penderfyniadau ynghylch pwy ddylai gael ei goffáu yn cael eu gwneud gan gymunedau ac awdurdodau lleol ond mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru osod mwy o arweiniad a chanllawiau.
Mae’r Pwyllgor yn galw am ganllawiau i gynnwys:
- cyngor am sut i ymgynghori orau â chymunedau lleol
- cyngor am sut i ymgysylltu â grwpiau mwy anodd eu cyrraedd a grwpiau lleiafrifol
- cyngor am sut i gasglu barn arbenigol, gan gynnwys haneswyr lleol.
“Mwyafrif llethol y cerfluniau ledled Cymru yn coffáu dynion gwyn”
“Yng Nghymru cawsom ein syfrdanu gan y digwyddiadau yn haf 2020 a marwolaeth drasig George Floyd. Gyda’r don o brotestiadau a ddilynodd, taniwyd dadl am y bobol sy’n cael eu cofio yn ein mannau cyhoeddus,” meddai Bethan Sayed AoS, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
“Mae llawer yn ein hanes i ymfalchïo ynddo, ond ni ddylai’r balchder hwnnw yr ydym i gyd yn ei deimlo ein rhwystro rhag cydnabod y digwyddiadau mwy eithafol sydd hefyd yn ein gorffennol – y mae eu heffaith i’w teimlo hyd heddiw.
“Rydym yn awyddus i gymunedau gael y gair olaf ynghylch pwy ddylai gael eu coffáu yn eu hardaloedd nhw ond credwn y dylai Llywodraeth Cymru ddangos arweiniad a darparu canllawiau ar sut i gynnwys pob rhan o’r gymuned yn y drafodaeth,” pwysleisia.
“Mae amrywiaeth yn broblem ddifrifol ac mae mwyafrif llethol y cerfluniau ledled Cymru yn coffáu dynion gwyn. Mae’n bryd i ni fynd i’r afael â hyn a chreu cerfluniau newydd neu waith celf sy’n cydnabod cyfraniadau menywod; pobl anabl; pobl dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl LHDT+ hefyd.
“Gallai ein hargymhelliad ar gyfer cynllun plac cenedlaethol newydd i Gymru, ‘Plac y Ddraig’, fod yn fan cychwyn er mwyn mynd i’r afael â’r anghydbwysedd a chynnwys y gymuned gyfan yn y gwaith o goffáu’r bobl wych sydd wedi cyfrannu at ein gwlad.”