Mae Prif Gwnstabl Heddlu Bryste wedi amddiffyn ei swyddogion am beidio ag ymyrryd er mwyn atal protestwyr rhag tynnu i lawr y cerflun o’r masnachwr caethweision, Edward Colston.
Cafodd y cerflun, oedd yno ers 1895, ei dynnu i lawr gyda rhaffau, ei lusgo drwy’r strydoedd, a’i daflu i mewn i’r harbwr yn ystod protest Black Lives Matter ddydd Sul.
Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi lansio ymchwiliad i’r hyn a ddigwyddodd i’r cerflun, sydd wedi bod yn destun dadlau ers tro yn y ddinas.
Dywedodd Marvin Rees, Maer Bryste, fod y cerflun a ddifrodwyd yn debygol o gael ei roi mewn Amgueddfa wrth ymyl placardiau o’r orymdaith.
Dywedodd y Prif Gwnstabl, Andy Marsh, y byddai “gwrthdaro treisgar iawn” wedi gallu digwydd pe bai ei swyddogion wedi ymyrryd i arestio’r rhai oedd yn gyfrifol.
“Byddai arestio pobl [ar y pryd] yn debygol o fod wedi arwain at anafiadau […] a gallai [hynny] fod wedi cael goblygiadau difrifol i ddinas Bryste a thu hwnt,” meddai Mr Marsh.
“Fedrwch chi ddychmygu golygfeydd o’r heddlu ym Mryste yn ymladd â phrotestwyr a oedd yn difrodi’r cerflun o ddyn yr ystyrir ei fod wedi gwneud tipyn o’i ffortiwn drwy’r fasnachu caethweision?
“Rwy’n credu y byddai goblygiadau difrifol iawn wedi bod ac er nad wyf yn esgusodi troseddu na difrodi o unrhyw fath, rwy’n llwyr gefnogi gweithredoedd fy swyddogion.
“Roedden nhw’n ymateb gyda synnwyr cyffredin, crebwyll cadarn ac er budd diogelwch y cyhoedd.”