Dyw’r Prif Weinidog Boris Johnson ddim yn meddwl fod y Deyrnas Unedig yn wlad hiliol, yn ôl ei lefarydd swyddogol.

Daw hyn wedi i brotestiadau Black Lives Matter ledaenu ar draws y Deyrnas Unedig yn sgil  llofruddiaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd cofgolofn y masnachwr caethweision Edward Colston ym Mryste ei dymchwel gyda rhaffau, ei llusgo drwy’r strydoedd a’i thaflu i’r harbwr yn ystod protest Black Lives Matter ddydd Sul (Mehefin 7).

“Dyw’r Prif Weinidog ddim yn amau fod hiliaeth yn dal i fodoli, ond nid yw’n cytuno fod hon yn wlad hiliol,” meddai’r llefarydd.

“Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar y mater hwn ond mae yno dal fwy i’w gyflawni a byddwn yn parhau gyda’n hymdrechion i ddileu hiliaeth pan mae’n digwydd.”

“Gweithred droseddol”

Mae Stryd Downing wedi dweud fod dymchwel cofgolofn Edward Colston ym Mryste yn “weithred droseddol.”

Dywed y dylai materion megis cofgolofn y masnachwr caethweision gael ei drafod drwy broses ddemocrataidd.

“Mae’r Prif Weinidog yn credu, yn y wlad hon, pan fo teimladau cryf, mae yno broses ddemocrataidd ddylai gael ei dilyn.

“Gall pobol ymgyrchu dros gael gwared â’r gofgolofn ond roedd beth ddigwyddodd ddoe yn weithred droseddol a phan mae’r gyfraith yn cael ei thorri dyw hynny ddim yn dderbyniol a bydd yr heddlu eisiau dal y sawl oedd yn gyfrifol.

“Mae’r Prif Weinidog yn deall bod teimladau’n gryf, ond yn y wlad hon rydym yn datrys ein gwahaniaethau’n ddemocrataidd ac os yw pobol eisiau cael gwared ar gofgolofn mae yno ffyrdd democrataidd o wneud hynny.”